E.coli: Trydydd cwmni yn galw bwyd yn ôl
Mae trydydd cwmni wedi tynnu 'wrapiau' yn ôl o’r silffoedd yn sgil posibilrwydd eu bod wedi eu heintio gyda E.coli.
Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd bod y cwmni cynhyrchu THIS! wedi dweud wrth gwsmeriaid am beidio bwyta'r cynnyrch figan cyw iâr a bacwn sydd yn cael ei werthu yn siop WHSmith.
Mae’r cwmni yn dweud eu bod wedi gwneud y penderfyniad “rhagofn” bod nhw wedi eu heintio.
Daw’r cyhoeddiad ddyddiau yn unig ers i ddau gwmni cynhyrchu arall, Greencore Group a Samworth Brothers alw amrywiaeth o frechdanau, 'wrapiau' a saladau yn ôl o rhai archfarchnadoedd.
Math o facteria yw E.coli sydd yn byw yn y coluddyn.
Dyw y rhan fwyaf o fathau ddim yn achosi unrhyw broblemau ond gall rhai fel STEC wneud pobl yn sâl iawn.
Mae 27 achos o’r haint E.coli wedi cael eu cofnodi yng Nghymru ers 25 Mai, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.