Rory McIlroy yn methu'r cyfle i ennill Pencampwriaeth Agored UDA
Mae Rory McIlroy wedi methu'r cyfle i ennill prif bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 10 mlynedd ar ôl gorffen yn ail ym Mhencampwriaeth Agored UDA dros y penwythnos.
Roedd perfformiad McIlroy wedi bod yn addawol iawn yn ystod dyddiau cyntaf y bencampwriaeth,ond fe wnaeth canlyniadau siomedig ddydd Sul olygu mai Bryson DeChambeau oedd yn fuddugol.
Dyma'r pedwerydd tro i McIlroy orffen yn ail mewn prif bencampwriaeth ers iddo ennill ei brif bencampwriaeth ddiwethaf yn 2014.
Bydd McIlroy yn gobeithio gwneud yn iawn am ei berfformiad siomedig ddydd Sul pan fydd yn chwarae ym Mhencampwriaeth Agored Prydain yn Yr Alban mewn pum wythnos.
Fe wnaeth y cyn-rhif 1 wrthod siarad â'r wasg ar ôl y bencampwriaeth, gan adael y cwrs golff funudau yn unig wedi i DeChambeau gipio'r wobr.
Llun: Wochit