Arestio tri wedi i fachgen 16 oed farw ar ôl i goeden ddisgyn ar ei ben
Mae bachgen 16 oed wedi marw ar ôl i goeden ddisgyn ar ei ben o.
Dywedodd Heddlu Sir Nottingham fod dau ddyn, 28 a 31 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad yn gysylltiedig â marwolaeth ddydd Sadwrn.
Cafodd dynes 28 oed ei harestio hefyd ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae'r tri yn parhau yn y ddalfa.
Fe gafodd swyddogion eu galw i Carlton-in-Lindrick am 11:21 ddydd Sadwrn wedi adroddiadau fod bachgen wedi cael ei anafu yn ddifrifol.
Fe wnaeth swyddogion yr heddlu a pharafeddygon fynychu ond bu farw'r bachgen yn y fan a'r lle.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Simon Harrison: "Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig ac mae ein meddyliau ni gyda theulu'r bachgen.
"Maent wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod ofnadwy o anodd yma."