Gyrrwr car heddlu a darodd fuwch wedi ei wahardd o'i ddyletswydd
Mae swyddog a ddefnyddiodd ei gar heddlu i daro buwch wedi cael ei wahardd o’i ddyletswyddau rheng flaen, meddai Heddlu Surrey.
Fe wnaeth y digwyddiad gymryd lle am 20:55 ddydd Gwener ar ôl i’r heddlu dderbyn adroddiadau bod buwch wedi dianc yn Staines-upon-Thames.
Roedd fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos buwch 10-mis oed o'r enw Beau Lucy yn cael ei tharo ddwywaith gan gar heddlu ar ffordd breswyl.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Nev Kemp: “Rwy’n gwerthfawrogi’n llwyr y trallod y mae ein hymdriniaeth â’r digwyddiad hwn wedi’i achosi a byddaf yn sicrhau ein bod yn ymchwilio'n drylwyr ac yn ddiwyd i'r mater.
“Yn ogystal ag atgyfeiriad mewnol i’n Hadran Safonau Proffesiynol, rydym hefyd wedi cyfeirio’r mater at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
“Ar hyn o bryd, mae’r swyddog oedd yn gyrru’r car heddlu wedi’i wahardd o’i ddyletswyddau rheng flaen wrth aros am ganlyniad yr ymchwiliadau hyn."
'Erchyll'
Dywedodd perchennog yr anifail, Rob: "Rwy'n meddwl bod y fideo yn siarad drosto'i hun. Roedd yn eithaf erchyll.
"Roedd y dull o ddelio â’r sefyllfa yn anghywir. Roedd yn anghywir, ac rwy’n meddwl mai dyna’r neges rydyn ni wedi’i dysgu."
Ychwanegodd Rob y dylai milfeddyg fod wedi bod yn rhan o achubiaeth Beau Lucy.
“Dydw i ddim yn deall pam na ddefnyddiodd [yr heddlu] dart tawelu.
"Pe bydden nhw'n defnyddio dart tawelu byddai'r fuwch wedi tawelu'n syth a mynd dros [y car] os oedd angen iddyn nhw gael halter arni neu ei hatal."
Yn ôl Rob, mae Beau Lucy yn gwella’n dda, ond dywedodd: “Amser a ddengys oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod pa anafiadau mewnol allai fod ganddi.
"Ond mae hi'n bwyta, felly mae hynny'n arwydd da."
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Kemp: “Gallaf gadarnhau bod ymdrechion wedi eu gwneud ar y noson i gysylltu â milfeddygon lleol heb lwyddiant a bod ymdrechion wedi eu gwneud ar yr un pryd i ddarganfod y perchennog.
"Bydd pam y bu'r rhain yn aflwyddiannus a beth arall y gellid ac y dylid bod wedi'i wneud yn rhan allweddol o'r ymchwiliad."
Ychwanegodd: "Rwyf hefyd wedi dweud wrth y Swyddfa Gartref am ba gamau rydym yn eu cymryd, ac rydym yn cysylltu â nifer o elusennau anifeiliaid sydd wedi cysylltu â ni ynglŷn â’r digwyddiad hwn.”