Heddlu Hamburg yn saethu person ger safle Euro 2024
Mae heddlu Hamburg wedi saethu person ar ôl i'w swyddogion gael eu bygwth â bwyell ger safle Euro 2024.
Fe wnaeth y digwyddiad gymryd lle am 12:30 yn ardal St Pauli o'r ddinas Almaeneg brynhawn Sul.
Roedd yr Iseldiroedd yn chwarae Gwlad Pwyl yn stadiwm y Volksparkstadion gerllaw am 14:00.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Hamburg: "Ar hyn o bryd, mae ymgyrch fawr gan yr heddlu yn St Pauli. Yn ôl y canfyddiadau cychwynnol, roedd person yn bygwth swyddogion heddlu gyda bwyell a dyfais losgi. Yna defnyddiodd yr heddlu eu drylliau.
"Cafodd yr ymosodwr ei anafu ac mae'n derbyn triniaeth feddygol."
Roedd tua 40,000 o bobl wedi teithio i'r ddinas ar gyfer y gêm.