
Ysgrifennydd Cartref yn galw am ‘esboniad brys’ ar ôl i’r heddlu daro buwch gyda char
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi gofyn am “esboniad brys” ynglŷn â pham roedd swyddogion yn ymddangos fel petaent yn defnyddio car heddlu i atal buwch oedd wedi dianc.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd James Cleverly fod y digwyddiad yn ymddangos yn “llawdrwm diangen”.
Daeth ei sylwadau ar ôl i fideo ar-lein ddangos buwch mewn stryd yn cael ei tharo ddwywaith gan gar heddlu.
Yn ôl Heddlu Surrey, roedd y digwyddiad wedi cymryd lle yn Staines-upon-Thames am 20:55 nos Wener.
Mae'r fuwch wedi dioddef anafiadau i’w choes ac yn derbyn triniaeth gan filfeddyg, meddai swyddogion.

Wrth ymateb i'r digwyddiad, dywedodd Mr Cleverly: “Ni allaf feddwl am unrhyw angen rhesymol am y weithred hon. Rwyf wedi gofyn am esboniad llawn, brys am hyn. Mae’n ymddangos ei fod yn llawdrwm a diangen.”
Dywedodd Heddlu Surrey fod y fuwch wedi bod yn rhedeg yn rhydd drwy’r nos ar nifer o brif ffyrdd.
Roedd y llu yn ymateb ar ôl derbyn adroddiadau bod car wedi ei ddifrodi a bod yr anifail yn rhedeg at aelodau o'r cyhoedd, meddai.
Ychwanegodd yr heddlu fod swyddogion wedi bod yn bryderus am ddiogelwch y cyhoedd ac wedi rhoi cynnig ar nifer o opsiynau i ddal y fuwch yn ddiogel.
Ymchwiliad
Yn ôl y llu, mae'r digwyddiad wedi ei gyfeirio at ei Adran Safonau Proffesiynol.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu hefyd wedi cael gwybod, a bydd atgyfeiriad gwirfoddol yn cael ei wneud maes o law, meddai'r llefarydd.
Dywedodd y Prif Arolygydd, Sam Adcock: “Rwy’n gwybod bod hyn wedi achosi trallod a hoffwn ddiolch i’r gymuned am eu pryder.
“Dim ond ar ôl i ddulliau eraill o atal y fuwch fethu wnaeth y llu benderfynu defnyddio’r car heddlu.
“Bydd ymchwiliad i’r camau a arweiniodd at hyn, ond rydym bob amser yn canolbwyntio ar sicrhau diogelwch y cyhoedd.”