Ymchwilio i achos digwyddiad cemegol yn y Barri
Mae cwmni cynhyrchu silicon ym Mro Morgannwg wedi dweud eu bod yn ymchwilio i achos o "ollyngiad cemegol" ar eu safle yn y Barri ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi derbyn galwad fod digwyddiad wedi cymryd lle ar safle Dow Corning yn y Barri.
Roedd yr heddlu wedi cynghori trigolion ardaloedd Dinas Powys, Sili a Phenarth i gau eu drysau a'u ffenestri fel "mesur rhagofalus".
Mae silicon wedi'i gynhyrchu ar y safle ers 1952 ac mae tua 630 o bobl yn gweithio yn y ffatri ar hyn o bryd.
Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn bresennol gyda nifer o griwiau ar leoliad, ond mae'r cwmni bellach wedi cadarnhau fod y digwyddiad wedi dod i ben, heb adroddiadau am unrhyw anafiadau.