Cyn-ymosodwr Caerdydd, Kevin Campbell, wedi marw yn 54 oed
Mae cyn-ymosodwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi marw yn 54 oed.
Roedd Kevin Campbell wedi cael ei anfon i'r ysbyty fis diwethaf gyda sepsis.
Roedd y gŵr o Lundain yn adnabyddus fel blaenwr i dimau Arsenal ac Everton.
Ond bu'n chwarae i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd am flwyddyn ar ddiwedd ei yrfa.
Fe sgoriodd Campbell 148 gôl mewn 542 gêm yn ystod ei yrfa 20 mlynedd.
Ar ôl iddo ymddeol o bêl-droed, roedd wedi dod yn wyneb cyfarwydd fel sylwebydd ar Sky Sports.
Mewn datganiad, dywedodd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd: "Mae pob un ohonom yn Dinas Caerdydd yn drist iawn o glywed am farwolaeth y cyn-ymosodwr, Kevin Campbell.
"Mae meddyliau pawb yn y clwb gyda ffrindiau a theulu Kevin ar yr amser hynod anodd hwn. Gorffwysa mewn hedd, Kevin."
Llun: Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd