Newyddion S4C

Trefnwyr gŵyl yn cael dirwy o dros £20,000 wedi i ferch farw dros ddegawd yn ôl

14/06/2024
Angharad Rees

Mae trefnwyr gŵyl wedi cael dirwy o dros £20,000 wedi i ferch yn ei harddegau farw ar ôl cael ei thaflu oddi gerbyd oedd yn cael ei thywys gan geffyl ym Mhort Talbot. 

Bu farw Angharad Rees yn 18 oed dros ddegawd yn ôl wedi iddi ddioddef anafiadau angheuol i’w phen, a hithau wedi cael ei thaflu oddi ar y cerbyd oedd yn cael ei dywys gan geffyl tra oedd hi’n ei gyrru. 

Clywodd Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener bod y digwyddiad wedi cael ei drefnu gan Gymdeithas Yrru Prydain, ac fe gafodd ei gynnal ym Mharc Gwledig Afan Argoed ym Mhort Talbot ar 27 Mai 2012.

Roedd Ms Rees yn yrrwr car a cheffyl profiadol ond dyma oedd y tro cyntaf iddi gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r fath. 

Dywedodd Adam Farrer ar ran yr erlyniad fod Miss Rees yn defnyddio ei cheffyl ei hunain, o’r enw Magic, wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth. 

“Roedd cyfres o fethiannau ar ran y trefnwyr o ran rheoli diogelwch y digwyddiad yma a wnaeth arwain at y damwain.," meddai.

“Roedd Angharad yn brofiadol yn ei maes… roedd hi’n hyderus gyda’i cheffyl, Magic.”

'Dim helmed'

Roedd ceffyl Miss Rees wedi troi i'r dde gan olygu ei bod hi a’i cherbyd yn teithio i lawr ffordd gul, clywodd y llys. Roedd Miss Rees wedi colli rheolaeth o’r car yn ystod y digwyddiad hwnnw ac roedd y cerbyd wedi troi ar ei ben. 

Roedd Miss Rees wedi taro coeden wedi iddi gwympo oddi ar y cerbyd ac fe fu farw o ganlyniad i anafiadau angheuol i’w phen yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. 

Dywedodd Mr Farrer na chafodd yr offer a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad ei gwirio gan drefnwyr yr ŵyl cyn y gystadleuaeth ac nad oedd yn ofynnol i'r rheiny oedd yn cymryd rhan wisgo offer diogelwch.

“Ar ddiwrnod yr ŵyl mi oedd hi’n boeth, ac fe benderfynodd Angharad i beidio â gwisgo helmed.”

Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr fod yr ymchwiliad i’r digwyddiad wedi datgelu “agwedd achlysurol tuag at ffurfioldeb”.

“Mae’r dystiolaeth yn yr achos wedi dangos bod y llwybr a ddefnyddiwyd y diwrnod hwnnw yn gwbl annigonol i sicrhau diogelwch cystadleuwyr am bob math o resymau,” meddai.

Dywedodd fod y trefnwyr wedi methu a gwneud “unrhyw beth” i sicrhau diogelwch y digwyddiad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.