Newyddion S4C

Syr Alan Bates a gweddill Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin

15/06/2024
Rhestr Anrhydeddau'r Brenin

Gyda dros 1,000 o bobl ar hyd a lled y DU wedi’u henwi ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin eleni, pwy yw’r Cymry amlwg i gael eu hanrhydeddu?

Wedi dod i amlygrwydd yn sgil sgandal technoleg Horizon a’r Swyddfa Bost, mae’r cyn is-bostfeistr o Gonwy, Alan Bates wedi’i wneud yn farchog ddydd Gwener. 

Fe ddaeth gwaith ymgyrchu Syr Alan yn destun trafodaeth genedlaethol wedi i gyfres deledu ITV, Mr Bates vs the Post Office, ddilyn ei frwydr bersonol i fynd at wraidd cannoedd o gyhuddiadau o ladrata yn erbyn is-bostfeistri ledled y DU. 

Mae’r cyn is-bostfeistr eisoes wedi gwrthod anrhydedd OBE gan ddweud y byddai’n “sarhaus” i aelodau eraill y grŵp ymgyrchu 'Justice for Subpostmasters Alliance', yr oedd ef wedi’i sefydlu. 

Ond mae bellach wedi rhannu ei fod wedi derbyn “cannoedd o e-byst a llythyron o gefnogaeth” dros y blynyddoedd sydd wedi dweud y dylai dderbyn cydnabyddiaeth am ei waith. 

“Er mai fi sy’n derbyn yr anrhydedd, mai ar ran pawb yn y grŵp hefyd – ac yn cydnabod y pethau erchyll sydd wedi digwydd iddyn nhw, a dyw’r stori ddim drosodd eto,” meddai.

Image
Emyr Afan Davies
Emyr Afan Davies

A phwy arall sydd wedi cael eu hanrhydeddu?

Ym myd y cyfryngau, mae’r darlledwr Roy Noble o Aberdâr wedi’i anrhydeddu ag OBE DL (‘Officer of the Order of the British Empire Deputy Lieutenant’) am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymreig, yr iaith Gymraeg, a’r gymuned. 

Mae’r darlledwr yn fwyaf adnabyddus am ei waith cyflwyno ar orsaf radio BBC Radio Cymru, yn ogystal â chyflwyno rhaglen S4C, Heno. Mae’r cyflwynydd hefyd wedi ymddangos ar raglen sebon S4C, Pobol y Cwm. 

Fel prif swyddog gweithredol cwmni cynhyrchu Afanti, mae Emyr Afan Davies hefyd wedi’i anrhydeddu ag OBE (‘Officer of the Order of the British Empire’) am ei gyfraniad i’r cyfryngau a cherddoriaeth yng Nghymru. 

Yn ogystal, mae’r ddawnswraig o Gaerffili, Amy Dowden wedi’i hanryddegu gyda MBE (‘Member of the Order of the British Empire’) am godi ymwybyddiaeth am glefyd Crohn’s – a hithau wedi disgrifio’r profiad fel “y tu hwnt i’w holl freuddwydion.”

Yn y byd chwaraeon mae’r ddyfarnwraig a chyn chwaraewr pêl-droed o Fangor, Cheryl Foster hefyd wedi’i hanrhydeddu gyda MBE. 

Ac yn y byd gwleidyddol, mae’r cyn was sifil, y ddarlledwr ac awdur Y Farwnes Ffion Llywelyn Hague – gwraig i’r gwleidydd Ceidwadol William Hague – wedi cael ei hanrhydeddu am wasanaethu’r cyhoedd, yn ogystal â’i chyfraniad i fusnes. 

Tra bod Wayne David, y cyn AS dros Gaerffili, wedi’i anrhydeddu ag OBE. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.