'Gwyrth': Eliffant yn geni efeillaid yng Ngwlad Thai
Mae eliffant yng Ngwlad Thai wedi rhoi genedigaeth i efeilliaid, gyda gofalwyr yn ei ddisgrifio fel 'gwyrth'.
Nid oedd disgwyl i'r fam, Chamchuri, 36, roi genedigaeth i efeilliaid, ac wedi iddi eni un eliffant gwrywaidd ddydd Gwener diwethaf, roedd staff yn yr atyniad i dwristiaid yn meddwl mai dyna oedd ei diwedd hi.
Ond wrth lanhau'r eliffant cyntaf, fe glywodd staff sŵn mawr a sylweddoli bod y fam wedi rhoi genedigaeth i eliffant arall, un benywaidd y tro hwn.
Fe wnaeth yr ail enedigaeth achosi panig i'r fam, ac roedd yn rhaid i ofalwyr ei hatal rhag sathru ar yr eliffant benywaidd.
Dim ond mewn 1% o enedigaethau eliffantod y mae efeilliaid yn cael eu geni fel arfer, ac mae cael un gwryw ac un benyw hyd yn oed yn fwy prin yn ôl sefydliad Save the Elephants.
Mae eliffantod yn cael eu hystyried yn sanctaidd yng Ngwlad Thai, ac maent hefyd yn symbol cenedlaethol.
Ers y genedigaethau, mae ymwelwyr i'r parc, gan gynnwys plant, yn cael gweld yr efeilliaid, ond dim ond ar ôl iddyn nhw ddiheintio eu hesgidiau a'u dwylo.
Byddant yn cael eu henwi saith diwrnod ar ôl eu geni.
Llun: Elephantstay/Facebook