Dyn a dynes yn eu hugeiniau wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
Mae dau o bobl wedi marw a dau arall yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Sir Gâr ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi cael eu galw i wrthdrawiad ffordd rhwng dau gerbyd am tua 16:00 ddydd Iau.
Mewn diweddariad dywedodd y llu bod dyn 27 oed a dynes 25 oed wedi marw o'u hanafiadau.
Cafodd dau oedolyn arall 27 a 23 eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu eu bywydau.
Roedd dau gar yn rhan o'r ddamwain - Jaguar du a Ford Fiesta du.
Roedd y Jaguar yn teithio tua'r gorllewin i gyfeiriad Sir Benfro ac roedd y Fiesta yn teithio i'r cyfeiriad arall adeg y gwrthdrawiad.
Roedd yr A477 rhwng Llanddowror a Rhos-goch ar gau ar ôl y gwrthdrawiad, gyda dargyfeiriadau yn eu lle, ond mae'r ffordd bellach wedi ail-agor.
Mae pobl yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal ac i gymryd llwybr arall pan yn bosibl.
Y disgwyl ydy y bydd y ffordd yn parhau ar gau am beth amser.
Llun: Google