Arestio dau lanc wedi 'anhrefn treisgar' ym Mlaenau Ffestiniog
Mae dau ddyn ifanc wedi cael eu harestio yn dilyn anhrefn diweddar ym Mlaenau Ffestiniog yng Ngwynedd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y digwyddiad ar 5 Mehefin wedi digwydd yn ardal Fron Fawr o'r dref.
Fe gafodd bachgen 17 oed a dyn 19 oed eu harestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar, ac mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd yr Arolygydd Iwan Jones: "Dwi'n deall fod yr anhrefn diweddar yn Blaenau yn achosi ychydig o bryder i rai aelodau o'r gymuned.
"Does yna ddim lle i drais yn ein cymunedau ac mae adroddiadau o'r fath yn cael eu cymryd yn ddifrifol iawn.
"Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth barhaus a'u hamynedd wrth i ni ymchwilio i'r drosedd hon.
"Fe fydd trigolion yn gweld presenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal dros yr wythnosau nesaf."