Angen i ddisgyblion 'roi’r gorau i wisgo mygydau' medd y Comisiynydd Plant

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw am roi diwedd “ar unwaith” i’r defnydd o fygydau gan blant mewn ysgolion yng Nghymru.
Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru, gofynnodd yr Athro Sally Holland am ddod â diwedd i’r drefn o’i gwisgo erbyn diwrnod cyntaf y tymor nesaf ar yr hwyraf.
Honnodd fod gwisgo mygydau yn effeithio ar safon dysgu ac yn achosi pryder ymysg plant, yn ôl Wales Online.
Galwodd hefyd am ddiwedd i hunan-ynysu torfol ymhlith disgyblion gan ddweud fod “rhyddid anghytbwys” yn bodoli rhwng oedolion a phlant.
Darllenwch y stori’n llawn yma.