Newyddion S4C

Clwb Pêl-droed Caernarfon i chwarae eu gemau Ewropeaidd ym Mangor

04/06/2024

Clwb Pêl-droed Caernarfon i chwarae eu gemau Ewropeaidd ym Mangor

Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi cyhoeddi mai ar gae Nantporth ym Mangor y bydd eu cymalau cartref yn cael eu chwarae yng Nghynghrair Cynhadledd Europa fis nesaf.

Fe lwyddodd y Caneris i sicrhau lle yn Ewrop am y tro cyntaf yn hanes y clwb ar ôl trechu Pen-y-bont 3-1 ar yr Oval fis diwethaf.

Roedd disgwyl i'r Cofis deithio i gae'r Seintiau Newydd yn Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt ar gyfer eu cymalau cartref, ond mewn cyhoeddiad nos Iau, dywedodd y clwb mai ym Mangor y bydd y cymalau hyn yn cael eu chwarae.

Nid oes gan Gaernarfon drwydded i chwarae gemau Ewropeaidd ar yr Oval.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb: "Gallwn gadarnhau y bydd ein gemau cartref yn ein hantur Ewropeaidd gyntaf yn cael eu chwarae yn Nantporth. 

"Hoffem ddiolch i CBC Nantporth am gytuno i’n croesawu ac i CBDC ac UEFA am eu cymorth yn y mater hwn."

Bydd gwrthwynebwyr Caernarfon ar gyfer rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Cynhadledd Europa UEFA yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, 18 Mehefin.

Bydd y detholion ar gyfer yr ail rownd yn cael eu cyhoeddi ddiwrnod yn ddiweddarach.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.