Gwrthod cwyn Siân Doyle am erthygl ar wefan Nation.Cymru
Mae corff wedi gwrthod cwyn gan gyn-brif weithredwr S4C am erthygl ar wefan Nation.Cymru.
Cafodd Siân Doyle ei diswyddo fel Prif Weithredwr y sianel gan Awdurdod S4C ym mis Tachwedd y llynedd.
Fe wnaeth hi wneud cwyn i Sefydliad Annibynnol Safonau’r Wasg (IPSO) am nad oedd yn fodlon gydag erthygl gan Nation.Cymru a oedd yn dweud ei bod i ffwrdd o'i gwaith gyda straen.
Yn ôl Ms Doyle, roedd hyn yn torri Cymal Dau o Gôd Ymarfer Golygyddion IPSO, gan ei fod yn rhannu manylion penodol fel rhesymau pam nad oedd hi yn ei gwaith.
Ychwanegodd ei bod yn ystyried hyn i fod yn wybodaeth feddygol gyfrinachol.
Dywedodd Nation.Cymru nad oedden nhw'n derbyn eu bod wedi torri Cymal Dau, gan ddweud fod Ms Doyle "yn ffigwr cyhoeddus a oedd yng nghanol argyfwng cyhoeddus".
Wrth ystyried y diddordeb cyhoeddus wrth ystyried rhannu'r wybodaeth yn yr erthygl, roedd pwyllgor IPSO yn ymwybodol o safle Ms Doyle fel cyn-brif weithredwr S4C, sef "corff sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus sydd yn gyflogwr mawr yng Nghymru ac sy'n chwarae rôl flaenllaw yn y gymdeithas iaith Gymraeg."
Mae'r pwyllgor hefyd yn dweud fod y sefydliad wedi bod yn destun nifer o adroddiadau yn ymwneud ag "arweinyddiaeth a'r diwylliant sefydliadol, gan gynnwys honiadau o fwlio, ac roedd rhai o'r rhain yn ymwneud â'r achwynydd."
Yn ôl y pwyllgor, roedd yna "ddiddordeb cyhoeddus clir yn y stori ar y cyfan."
Ddechrau Rhagfyr y llynedd, cyhoeddwyd adroddiad i'r amgylchedd gwaith o fewn S4C, oedd yn dweud fod tystiolaeth staff yn awgrymu bod ymddygiad honedig y cyn-brif weithredwr wedi cael “effaith sylweddol” ar weithwyr.
Mae'r adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law yn dweud fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig Sian Doyle "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".
Dywedodd yr adroddiad fod “amgylchedd gwaith” S4C wedi ei effeithio'n "negyddol” gan yr honiadau gan achosi “anhrefn, anfodlonrwydd ac anghytuno".
Roedd Siân Doyle yn gwadu unrhyw gyhuddiad o fwlio yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad.