Newyddion S4C

'Dewrder Mam ar ei siwrne canser' yn ysgogi taith gerdded i Gaerdydd

14/06/2024

'Dewrder Mam ar ei siwrne canser' yn ysgogi taith gerdded i Gaerdydd

"Dwi'n meddwl bod gweld hi mor gryf yn delio gyda'r her yma a gweld hi yn dyfalbarhau gyda siwrne canser hi, ma' hwnna wedi rili ysgogi fi i neud yr her yma hefyd."

Ddydd Gwener, fe fydd Gwen Davies a'i chyd-weithwyr o Gaerdydd yn gwneud taith gerdded 14 awr, a hynny am reswm sy'n agos iawn at ei chalon. 

Derbyniodd mam Gwen, Michelle Davies, ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd terfynol yn gynharach eleni, ac mae ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd. 

Fe fydd Gwen a thua 40 o'i chyd-weithwyr yn asiantaeth gyfathrebu Golley Slater yn cerdded 30 milltir ddydd Gwener, o Dredegar, sef man geni sylfaenydd y GIG Aneurin Bevan, i Gaerdydd, gyda disgwyl y bydd y daith yn cymryd 14 awr. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Gwen: "Pan gath Mam y diagnosis ym mis Ionawr, o'dd hi'n sioc yn fwy nag unrhyw beth achos mae'n ymddangos yn iach. Os chi'n gweld hi nawr, mae dal yn edrych yn iach hyd yn oed os mae'n cael y driniaeth ar y funud. 

"Felly oedd hi'n anodd i ddechrau dod i delere gyda hwnna hefyd. Chi'n gweld rhywun yn edrych mor iach ac i ddechre, dim ond blwyddyn wnaethon nhw roi iddi ond mae'n ymateb yn dda i driniaeth felly gobeithio bydd hi yn hirach."

Image
Gwen a'i chwaer Elin, a'u rhieni, Michelle a Gareth
Gwen a'i chwaer Elin, a'u rhieni, Michelle a Gareth

Mae siarad yn agored am ganser wedi bod o gymorth i Gwen a'r teulu. 

"Unwaith wnaethon ni ddod dros y sioc a dechre siarad gyda pobl am sut y'n ni'n teimlo, a beth oedd yn mynd ymlaen, dwi'n meddwl oedd hwnna wedi agor lot o ddrysau hefyd a neud i ni sylweddol 'falle dim jyst ni oedd yn mynd trwy fe. 

"Yn amlwg, pan mae rywun yn cael diagnosis o ganser, dim jest y person sy'n mynd trwy hwnna ond mae'r teulu, mae'r ffrindie hefyd a ma' lot o bobl o gwmpas chi hefyd yn cael eu heffeithio felly mae'n bwysig bo' chi yn siarad yn agored am bethe fel hyn a sut chi'n teimlo amdano fe."

Image
Gwen

Mae 'rhannu'r baich emosiynol' hefyd er mwyn aros yn obeithiol yn ôl Gwen.

"Pan ma' rywun yn cael diagnosis o ganser, dwi'n meddwl pan chi'n clywed y gair canser, chi'n ofni'r gwaethaf ond y mwya' chi'n siarad am y peth a falle yn rhannu'r baich emosiynol yna, dwi'n meddwl, dyw e ddim yn mynd yn haws ond mae jyst yn neud i bobl gallu cydymdeimlo gyda chi yn well. 

"Ma'n bwysig siarad gyda gwaith am y pethe yma fel bo' nhw'n gallu bod yn hyblyg ac hefyd ers i ni fynd trwy'r siwrne yma, ma' Mam yn enwedig wedi gallu â pobl sy'n mynd trwy'r un peth a ma' hwnna yn rili bwysig.

"Ma' hefyd yn bwysig siarad gyda phobl sydd wedi mynd trwy pethe tebyg achos chi'n meddwl y gwaetha ond wedyn chi'n gallu clywed am straeon positif."

Image
Derbyniodd Michelle ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd ym mis Ionawr eleni.
Derbyniodd Michelle ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd ym mis Ionawr eleni.

Mae'r criw yn gobeithio codi arian er mwyn sicrhau bod rhagor o ymchwil a thriniaethau ar gael. 

"Ma' Mam 'di cael diagnosis terfynol ond ma' hwnna jest yn meddwl falle bydd y canser ddim yn mynd ond ma' 'na gymaint o ymchwil yn mynd ymlaen ar y funud, ma' gymaint o feddyginiaethau gwahanol - ma'r feddyginiaeth dyddie 'ma yn anhygoel a be' ma' nhw'n gallu neud.  

"Dyna un o'r rhesyme hefyd 'dan ni yn codi arian fel grŵp i Ganolfan Felindre er mwyn galluogi nhw i gynnig mwy o driniaeth, cynnig mwy o ymchwil i mewn i ganser. 

"Ond hefyd, ma' 'na cwpl o bobl yn Golley Slater, cwpl o fy nghyd-weithwyr hefyd yn mynd trwy'r un peth. Ma' canser yn amlwg yn effeithio ar nifer fawr ohonom - 50% ohonom ni yn mynd i gael canser yn ein hoes felly ma'n rili bwysig i godi ymwybyddiaeth a codi arian."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.