Heriau ariannol yn golygu dyfodol ansicr i gôr Only Boys Aloud
Mae côr adnabyddus a gyrhaeddodd rowndiau terfynol rhaglen Britain's Got Talent wedi dweud eu bod yn wynebu “dyfodol ansicr” gan fod yr elusen sydd yn gyfrifol am y côr mewn dyfroedd dyfnion yn ariannol.
Mae Only Boys Aloud yn dweud bod angen iddyn nhw godi £150,000 er mwyn achub y côr a’u helusen, sef elusen Aloud.
Fel "yr unig gôr yng Nghymru sy’n darparu ymarferion côr yn rhad ac am ddim" medd yr arweinwyr, maen nhw’n pryderu y bydd eu darpariaeth i bobl ifanc yn dod i ben heb gyllid newydd.
Mae 11 côr ynghlwm ag Only Boys Aloud ar hyd a lled y wlad, ac mae dros 6,500 o fechgyn wedi bod yn aelod o’r corau hynny ers dechrau'r fenter yn 2010.
Roedd cyfrifon diweddaraf elusen Aloud hyd at ddiwedd mis Awst 2023 yn dangos colled o £29,192, a hynny'n bennaf o achos gostyngiad mewn cyfraniadau nawdd gan wahanol ymddiriedolaethau.
Roedd yr elusen wedi derbyn incwm o £597,538 am y flwyddyn hyd at ddiwedd Awst 2023, gyda gwariant o £627,560.
Fe wnaethant fethu sicrhau nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dilyn adolygiad y sefydliad hwnnw o gyfraniadau i wahanol gyrff yn 2022/23 meddai'r cyfrifon.
Hinsawdd economaidd
Dywedodd Carys Wynne-Morgan, prif swyddog gweithredol elusen Aloud: “Ry’n ni, fel cymaint o elusennau celfyddydol eraill, yn ei chael hi’n anodd iawn. Mae'r hinsawdd economaidd a’r amgylchedd ariannu wedi’n bwrw ni’n galed.
“Er gwaethaf ymdrechion tîm ymroddedig a gwybodus, nid ydym wedi gallu codi’r arian sy’n angenrheidiol ar gyfer ein gwaith hanfodol mewn cymunedau ledled Cymru eleni.
“O ganlyniad, rydyn ni wedi gorfod gwneud y penderfyniad torcalonnus i roi’r gorau i’n holl weithgareddau rhad ac am ddim rheolaidd i bobl ifanc oed ysgol uwchradd am y tro, a lleihau ein tîm ymroddedig i hanner ei faint.”
“Er mwyn ailddechrau unrhyw weithgaredd yn yr hydref, mae angen i ni sicrhau bod arian yn y banc i wireddu ein huchelgeisiau ac anrhydeddu unrhyw ymrwymiadau.”
'Hyder'
Fel un o aelodau gwreiddiol y côr, dywedodd yr actor Tom Hier – sydd bellach wedi serennu yng nghynyrchiadau’r West End o 'Miss Saigon', 'Joseph' a 'Footloose' – na fyddai ef wedi “gwneud yr hyn dwi’n ei wneud heddiw oni bai am yr hyder a’r sgiliau nes i feithrin gyda Only Boys Aloud.”
“Am y tro cyntaf erioed, mae angen i ni ofyn am roddion cyhoeddus – rydym angen eich help.
“Dwi ddim yn meddwl fod pobl yn deall fod Only Boys Aloud yn cael ei redeg fel elusen. Mae pob sesiwn ymarfer, pob cyngerdd, pob trip am ddim – sydd yn anhygoel i’r bechgyn sy’n cymryd rhan.
“Ymunais ag OBA wrth iddo lansio. I fi, mae Only Boys Aloud yn gymaint mwy na chôr. Mae’n frawdoliaeth a gynigiodd gyfeillgarwch, pwrpas a chyfleoedd a newidiodd fy mywyd."
'Torcalonnus'
Fel un o arweinwyr cymunedol Only Boys Aloud, dywedodd Pat Ashman y byddai’n “dorcalonnus” be bai i’r corau yn dod i ben.
“Yn syml iawn, dyma’r prosiect gorau i fi fod yn gysylltiedig ag ef erioed.
“Mae fy nghysylltiad ag Aloud wedi cyfoethogi fy mywyd ac maen nhw’n gwybod y gallan nhw ddibynnu ar fy nghefnogaeth fel gwirfoddolwr bob amser,” meddai.