'Capten y bobl': Teyrngedau i chwaraewr rygbi fu farw yn ystod gêm gyfeillgar
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i chwaraewr rygbi fu farw yn ystod gêm gyfeillgar ger Coed-duon, Caerffili nos Fawrth.
Yn aelod o glwb rygbi Hollybush, bu farw Lee David Southall yn 36 oed yn y fan a’r lle tra'r oedd yn chwarae gêm gyfeillgar o rygbi ar gae’r clwb.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd clwb rygbi Hollybush eu bod nhw wedi eu “tristau’n fawr” gan eu colled.
“Mae Lee wedi bod yn rhan anferth o’n clwb ers ymhell dros ddegawd a bydd yn gadael twll enfawr yn ei ganol," medden nhw.
“Dyna le y treuliodd y rhan fwyaf o'i amser, yng nghanol yr holl sylw.
“Does ‘na ddim llawer o unigolion yn y byd hwn sydd a’r gallu i godi ysbryd ystafell llawn bobl, neu dîm cyfan, drwy fod yn bresennol yn unig – ond mi oedd Lee yn un o’r unigolion rheiny.
“Fe fydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd a’r anrhydedd o’i adnabod ef.
“Mae ein holl feddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf yn mynd allan i deulu Lee yn ystod y cyfnod hynod o drist yma.
“Capten y bobl.”
'Ddim yn amheus'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: “Fe wnaethon ni dderbyn adroddiad o argyfwng meddygol ar Faes Hamdden Hollybush, ger Coed Duon, am oddeutu 20.20 ddydd Mawrth, 11 Mehefin.
“Roedd swyddogion yr heddlu a pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn bresennol.”
Dywedodd parafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod dyn 36 oed wedi marw yn y fan a’r lle.
“Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel amheus a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r crwner,” ychwanegodd.
Llun: Clwb Rygbi Hollybush