Newyddion S4C

Technoleg adnabod wyneb yn arwain at arestio menyw ar ôl cyngerdd Pink

13/06/2024
Arestio menyw wedi cyngerdd

Mae menyw 53 oed wedi cael ei harestio ar ôl cyngerdd Pink yng Nghaerdydd wedi iddi gael ei hadnabod gan dechnoleg adnabod wyneb yr heddlu.

Cafodd y dechnoleg 'Live Facial Recognition' ei ddefnyddio ynghanol y brifddinas yn ystod y gyngerdd yn Stadiwm y Prinicipality ym mhrifddinas Caerdydd ddydd Mawrth.

Mae’r dechnoleg yn adnabod wynebau pobl y mae’r heddlu eisoes yn chwilio amdanynt. 

Image
Heddlu De Cymru
Llun: Heddlu De Cymru

Roedd Heddlu De Cymru yn chwilio am y fenyw o Gaerau, Caerdydd, wedi iddi beidio â mynychu'r llys ar ôl iddi gael ei chyhuddo o ymosod. 

Cafodd ei harestio am oddeutu 19.45 ar Stryd Bren (‘Wood Street’) a’i chadw yn nalfa Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd er mwyn iddi fynd i’r llys bore Mercher, meddai'r heddlu. 

Mae technoleg o’r fath yn cael ei ddefnyddio’n aml yn ystod digwyddiadau cyhoeddus ac ym mannau cyhoeddus prysur, a fu’n cael ei ddefnyddio er mwyn helpu’r llu gydag ymchwiliadau pan fod rheswm i’r heddlu i’w defnyddio, medd gwefan Heddlu De Cymru. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.