
Kevin y 'cawr addfwyn' yw'r ci talaf yn y byd
“Cawr addfwyn” o'r brid ‘great Dane’ yw’r ci gwrywaidd talaf yn y byd, yn ôl Record y Byd Guinness.
Mae'r ci tair blwydd oed o West Des Moines, Iowa yn yr Unol Daleithiau, yn dair troedfedd a dwy fodfedd o daldra.
Mae Kevin yn ddwy droedfedd 10.41 modfedd yn dalach na Pearl, y ci byrraf yn y byd – a hithau’n 3.59 modfedd o daldra.
Byddai yn rhaid gosod 10 Pearl ar ben ei gilydd er mwyn bod yr un taldra a Kevin.
Tuck, ci ‘decker rat terrier’ yw ffrind gorau Kevin, ag yntau’n hefyd byw gyda phedwar cath, ieir, geifr a cheffylau – yn ogystal â’u perchnogion, Tracy, Roger, Alexander ac Ava Wolfe.

Cafodd Kevin ei enwi ar ôl prif gymeriad y ffilm ‘Home Alone’, meddai Tracy Wolfe.
“’Dyn ni’n caru ei enw fo, ac mae wir yn byw bywyd fel Kevin," meddai.
Dywedodd bod Kevin wedi tyfu’n hynod o gyflym: “Mae’n gawr addfwyn.
“Yn wir, mae ofn y rhan fwyaf o bethau.
“Mae’n cael ei ddychryn gan yr hwfer yn benodol. Dydy o ddim yn caniatáu iddo ddod o fewn chwe throedfedd ohono fe. Fe fydd o’n neidio ac yn rhedeg er mwyn cael i ffwrdd o’r peth.”

Ond mae hefyd yn gi chwareus iawn, ac yn tueddu i fynd ar ei gwrcwd a chropian i'w wneud i'w hun ymddangos yn llai o faint ac yn llai brawychus o flaen cŵn eraill.
Mae gan Kevin berthynas agos gyda mab Tracy, Alexander, sy'n fachgen 12 oed.
“Maen nhw ‘di bod yn ffrindiau ers y cychwyn. Maen nhw’n gorwedd ar ‘soffa Kevin’ gyda’i gilydd bron i bob nos.”
Fe ddaeth Kevin y ci talaf yn y byd yn swyddogol ar 20 Mawrth 2024.
