Newyddion S4C

Tri o bobl yn gwadu llofruddio dyn mewn ymosodiad yn ei gartref

12/06/2024
Llys y Goron yr Wyddgrug

Clywodd rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug bod dyn yn ei chwedegau wedi marw ar ôl cael ei daro a'i drywanu gan dri o bobl yn ei gartref.

Cafodd corff Mark Wilcox, 65 oed, ei ddarganfod mewn cadair yn ei gartref ym Mae Colwyn ym mis Tachwedd 2023.

Mae Lauren Harris, sy'n 29 ac heb gyfeiriad sefydlog, David Webster, 43 o Widnes,  a Thomas Whiteley, 33, o Fae Colwyn, i gyd yn gwadu llofruddiaeth. Mae'r tri diffynydd yn beio'i gilydd am yr hyn ddigwyddodd.

Ychydig cyn yr ymosodiad, mae'r erlyniad yn dweud fod Lauren Harris wedi ceisio cael arian o beiriant "twll yn y wal" drwy ddefnyddio cerdyn banc Mr Wilcox. Wedyn, ychydig cyn ddau o'r gloch y bore, roedd hi wedi mynd i'w gartref. 

Bron i ugain munud yn ddiweddarach, gadawodd y tri diffynydd y tŷ  yng nghar Volvo Mr Wilcox, gyda Harris yn gyrru. Bu'r car mewn gwrthdrawiad wrth yrru i gyfeiriad ffordd yr A55, a ceisiodd y tri ddianc.

Ar ran yr erlyniad, dywedodd Andrew Ford KC:"Roedd y tri'n gyfrifol am farwolaeth Mr Wilcox. Wedi oriau o yfed a chymryd cyffuriau, trodd pethau'n gas a threisgar.

"Roedd y tri'n ran o'r ymosodiad ar Mr Wilcox, un ai'n uniongyrchol neu drwy annog eraill."

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.