Toriadau i'r celfyddydau wedi bod 'yn waeth yng Nghymru nag yn unman arall'
Mae toriadau yn y cyllid i'r celfyddydau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llawer gwaeth yng Nghymru nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig, yn ôl adroddiad gan undeb yr actorion, Equity.
Mae'r adroddiad yn dangos toriad o 30% yng Nghymru yn yr arian oedd ar gael rhwng 2017 a 2022.
Bu gostyngiad o 11% yn Loegr a 16% yng Ngogledd Iwerddon yn ystod yr un cyfnod. Ond bu cynnydd bychan o 2% yn yr arian gafodd ei wario yn yr Alban.
Mae'r ffigyrau, sy'n seiliedig ar geisiadau Rhyddid Gwybodaeth i bob cyngor celfyddydau yn y D.U, yn dangos gostyngiad o bron i £190 miliwn dros bum mlynedd.
Mae'r actoresau amlwg Olivia Coleman ac Imelda Staunton wedi condemnio'r gostyngiad.
Dywedodd Ms Coleman, sydd wedi ennill Oscar: "Mae'n frawychus gweld sut mae'r sector allweddol yma o'r economi a'r gweithlu wedi cael ei anwybyddu, er gwaetha'i gyfraniad enfawr i statws y D.U yn y byd ac i'n bywyd cyhoeddus.
"Mae'r diffyg cyllid gan lywodraethau yn golygu fwyfwy mai dim ond y cyfoethog sy'n gallu fforddio tocyn i sioe, neu sy'n gallu creu gyrfa iddyn nhw'u hunain o fewn y diwydiant."
Dywedodd Imelda Staunton:"Gydag ariannu go iawn, does dim diwedd i botensial y celfyddydau i ysbrydoli a diddanu, gan annog creadigrwydd a budd economaidd."
Mae Equity wedi galw ar bob plaid wleidyddol yn ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol i addo cynyddu'r gwariant ar y celfyddydau ac adloniant.
Gwrthododd y cynghorau celfyddydau, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, wneud unrhyw sylw, am nad oedden nhw eisiau cael eu gweld yn gwneud sylwadau "gwleidyddol" yn ystod yr ymgyrch etholiadol.