Pwy fyddwch chi’n ei gefnogi yn Euro 2024?
Pwy fyddwch chi’n ei gefnogi yn Euro 2024?
Fe fydd gêm agoriadol Euro 2024 yn cael ei chwarae yn yr Almaen nos Wener – ond pwy fyddwch chi yn ei gefnogi y tro hwn gan na fydd Cymru yno'n chwarae?
Mae'r gystadleuaeth yn cychwyn yn Munich gyda’r gêm agoriadol rhwng Yr Almaen, y wlad sydd yn cynnal y bencampwriaeth, a'r Alban.
Bydd 24 tîm yn cystadlu i gyd ond ni fydd Cymru yn eu plith, ar ôl iddyn nhw golli yn y gemau ail gyfle yn erbyn Gwlad Pwyl fis Mawrth – a hynny ar ôl ciciau o’r smotyn.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1801648174534103417
Dyma bob gwlad sydd yn cystadlu eleni, a’r grwpiau y maen nhw ynddyn nhw:
Grŵp A – Yr Almaen, Yr Alban, Hwngari, Y Swistir
Grŵp B – Sbaen, Croatia, Yr Eidal, Albania
Grŵp D – Gwlad Pwyl, Yr Iseldiroedd, Awstria, Ffrainc
Grŵp E – Gwlad Belg, Slofacia, Romania, Wcráin
Grŵp F - Twrci, Georgia, Portiwgal, Gweriniaeth Tsiec
Bydd y gemau yn cael eu cynnal yn ninasoedd Berlin, Munich, Cologne, Dortmund, Frankfurt, Dussledorf, Leipzig, Gelsenkirchen, Stuttgart a Hamburg.
Yr Olympiastadion yn y brifddinas Berlin fydd y lleoliad ar gyfer y rownd derfynol ar ddydd Sul 14 Gorffennaf.
Lloegr yw’r ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth yn ôl y bwcis, gyda Ffrainc a’r Almaen hefyd ymhlith y ceffylau blaen.
Yr Eidal yw deiliad y bencampwriaeth ar ôl curo Lloegr ar giciau o’r smotyn yn y rownd derfynol yn Wembley nôl yn 2021.
Llun: Wotchit/AFP