'Creu cyfoeth' wrth wraidd maniffesto y Blaid Lafur
Mae Syr Keir Starmer wedi dweud bod 'creu cyfoeth' wrth wraidd maniffesto'r Blaid Lafur wrth iddo ei lansio ym Manceinion ddydd Iau.
Mae'r maniffesto yn cynnwys addewid i roi cap ar dreth corfforaethol ar ei raddfa bresennol o 25% i roi sicrwydd hir-dymor i fusnesau.
Amharwyd ar y digwyddiad lansio gan wrthdystiwr hinsawdd wrth i Syr Keir ddechrau ei araith, gyda'r gwrthdystiwr yn cael ei symud yn gyflym allan o'r neuadd gan swyddogion.
Yn ei araith, dywedodd Syr Keir: “Rhaid i ni droi’r dudalen yn bendant ar syniadau’r Ceidwadwyr sydd wedi achosi’r fath anhrefn.
“Mae’r byd wedi dod yn fwyfwy cyfnewidiol, gyda rhyfela mawr yn Ewrop am y tro cyntaf ers cenhedlaeth a bygythiadau cynyddol i safonau byw gweithwyr.
“Mae’r ‘oes ansicrwydd’ hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r llywodraeth gamu i fyny, nid sefyll o’r neilltu.”
Mae'r blaid eisoes wedi dweud na fyddant yn cynyddu treth incwm, yswiriant gwladol na TAW, ac maent yn dweud na fydd y maniffesto yn cynnwys unrhyw gynnydd mewn treth sydd heb wedi cael eu gyhoeddi eisoes.
Dywedodd Syr Keir Starmer mai "creu cyfoeth ydy ein prif flaenoriaeth.
"Mae gan y Blaid Lafur hon sydd ar ei newydd wedd gynllun am dwf. Rydym ni o blaid busnes ac o blaid y gweithiwr, ni yw'r blaid sydd am greu cyfoeth."
Fe wnaeth hefyd wrthod y ddadl mai "nid sut ydych chi'n tyfu'r economi ydy'r prif gwestiwn".
Polisiau
Yn ogystal ag addewidion ar dreth, mae'r maniffesto yn cynnwys addewidion i "sicrhau buddsoddiad" drwy GB Energy, corff newydd wedi ei reoli gan y llywodraeth sy'n buddsoddi mewn pŵer glân, a diwygio rheolau cynllunio er mwyn helpu i adeiladu seilwaith newydd ac adeiladu 1.5 miliwn o dai newydd.
Bydd y blaid hefyd yn addo rhoi rhagor o bwerau i lywodraeth leol fel rhan o ymrwymiad i ddatganoli gwneud penderfyniadau i ffwrdd o San Steffan.
O ran polisi tramor, mae Llafur yn dweud y byddant yn parhau i gefnogi Wcráin yn erbyn Rwsia a chefnogi cydnabod Palesteina fel tiriogaeth fel rhan o broses heddwch yn y Dwyrain Canol.
Llun: PA