Cyhuddo dyn ar ôl i wrthrychau gael eu taflu at Nigel Farage
Mae dyn wedi’i gyhuddo o ymddwyn yn fygythiol ar ôl i wrthrychau gael eu taflu at Nigel Farage.
Dywedodd yr heddlu fod Josh Greally, 28, wedi’i gyhuddo o ddefnyddio geiriau ac ymddygiad bygythiol, difrïol, sarhaus gyda’r bwriad o achosi ofn.
Roedd Nigel Farage, arweinydd y blaid Reform UK, yn ymgyrchu ar fws agored yn Barnsley, de Sir Efrog ddydd Mawrth pan gafodd yr hyn a oedd yn ymddangos fel cwpan ei daflu ato.
Roedd delweddau fideo yn dangos dyn mewn hwdi coch oedd i’w weld yn gweiddi o ardal adeiladu islaw, cyn iddo estyn i mewn i fwced a thaflu rhywbeth arall i gyfeiriad y gwleidydd
Nid oedd yr un o'r gwrthrychau wedi taro'r gwleidydd.
Mae Josh Greally wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Barnsley ar 26 Mehefin.
Dywedodd Mr Farage, wrth ymgyrchu yn Ashfield, Sir Nottingham, fod y digwyddiad yn "eithaf cas".
Llun: PA