Economi Prydain ddim wedi tyfu ym mis Ebrill
12/06/2024
Wnaeth yr economi ddim tyfu o gwbl ym mis Ebrill yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Mae'r cyhoeddiad yn cyd-fynd gyda'r hyn roedd economegwyr wedi darogan am fod llai o wario wedi bod dros gyfnod y Pasg.
Roedd yr economi wedi tyfu 0.6% yn chwarter cyntaf 2024. Fe olygodd hynny bod Prydain bellach ddim mewn dirwasgiad.
Mae'r economi yn daten boeth i'r pleidiau gwleidyddol cyn yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf.