Newyddion S4C

Dim tywydd hafaidd tan fis Gorffennaf?

11/06/2024
Oer

Fe fydd yn rhaid i ni aros tan fis Gorffennaf am dywydd cynhesach oherwydd gwyntoedd oer yn chwythu i mewn o’r Arctig, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae’r DU wedi bod yn profi tymheredd rhwng tair a phum gradd yn is na'r cyfartaledd tymhorol dros yr wythnos ddiwethaf, meddai’r arbenigwyr.

Mae hyn oherwydd bod jetlif canol yr Iwerydd – gwynt sy’n symud yn gyflym yn yr atmosffer – yn arwain gwynt o’r gogledd i’r de dros y DU gan olygu tymheredd is.

Ond yn ôl y Swyddfa Dywydd, nid oes unrhyw arwydd o dywydd gwell ar y gorwel tan ddiwedd mis Mehefin.

Dywedodd yr arbenigwr o'r Swyddfa Dywydd, Simon Partridge: “Mae’n edrych fel y bydd y tymheredd yn aros yn agos at neu ychydig yn is na’r cyfartaledd am y rhan fwyaf o weddill mis Mehefin.

“Dros y cwpl o nosweithiau nesaf rydyn ni mewn gwirionedd yn disgwyl gweld ychydig o rew mewn ychydig o leoedd.

“Bydd hyn yn bennaf ar draws yr Alban ac o bosibl i ogledd Lloegr a Gogledd Iwerddon lle gallai’r tymheredd fynd i lawr i’r rhewbwynt.”

Ond eglurodd Mr Partridge nad yw patrymau o’r fath “yn anarferol”.

Dywedodd: “Ar gyfartaledd rydyn ni’n cael barrug aer – pan fydd y tymheredd yn cyrraedd sero – bob dau i dri Mehefin. 

"Felly nid yw mor anarferol â hynny. Ond nid yw'n arferol i fis Mehefin fod mor oer â hyn."

Llun: Pixabay

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.