Newyddion S4C

‘Dim hawl' gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r system gyfiawnder wrth lunio'r polisi 20mya

Y Byd yn ei Le 11/06/2024
David TC Davies

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud nad oedd gan Lywodraeth Cymru “yr hawl i ddefnyddio’r system gyfiawnder” wrth lunio’u polisi 20mya.

Daw hyn wedi i’r Ceidwadwyr gyhoeddi y bydden nhw’n cyflwyno deddf fyddai’n dileu cyfyngiadau 20mya ar rai ffyrdd yng Nghymru, pe baen nhw’n ennill yr Etholiad Cyffredinol.

Wrth siarad ar raglen gyntaf cyfres arbennig Y Byd yn ei Le, mae David TC Davies wedi cwestiynau a yw newid terfynau cyflymder o fewn pwerau datganoledig Llywodraeth Cymru.

Dywedodd wrth y rhaglen: “Mae gennym ni’r hawl, yn fy marn i jyst i edrych ar yr hyn mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud, a gofyn i’n hunain ‘os yw hynny rili’n rhywbeth sy’n rhan o’u cyfrifoldebau nhw.”

Fe wnaeth yr AS Ceidwadol gytuno bod ‘trafnidiaeth’ wedi cael ei ddatganoli yng Nghymru, ond fe wnaeth ychwanegu nad oedd hyn yn wir am ‘gyfraith a threfn’

“Yn fy marn i, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar lais y bobl yng Nghymru - hanner miliwn ohonyn nhw wedi dweud eu bod nhw ddim yn hapus.”

Fe wnaeth ychwanegu “bod Llywodraeth Cymru yn tresbasu mewn ardaloedd sy’n reserved, er enghraifft, fel cyfraith a threfn, cyfiawnder.”

Pan ofynnwyd iddo os oedd safbwynt y Ceidwadwyr yn tanseilio datganoli, dywedodd: “Dydw i ddim yn derbyn bod hi’n tanseilio datganoli.

“Mae’n hollol glir bod gan y Senedd gyfrifoldeb dros bethau fel… trafnidiaeth, ie, ond nid yr hawl i ddefnyddio’r system gyfiawnder i wneud hyn.” 

Cafodd y ddeddf ei phasio ym mis Gorffennaf 2022, gyda therfynau cyflymder 20mya yn dod i rym ar ffyrdd penodol yng Nghymru fis Medi’r llynedd. 

“Ry’n ni wedi dal yn erbyn 20mya ers dechrau’r broses.

“Nawr, mae Llywodraeth Cymru’n dechrau ailystyried yr holl sefyllfa oherwydd yr ymgyrch o’r Blaid Geidwadol yn y Senedd - dwi’n croesawu hynny. Ond, mae’n rhaid inni gael tipyn bach mwy o bwsh nawr.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Mae ein Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i wrando ar bobl ar 20mya drwy ailagor y broses ymgynghori. 

“A dim ond yr wythnos ddiwethaf, gwelsom fod cyfraddau gwrthdrawiadau mewn parthau 20mya a 30mya wedi gostwng.”

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Does gan Lywodraeth y DU ddim grym dros derfynau cyflymder yng Nghymru. Does gan y Torïaid ddim byd cadarnhaol i gynnig i bobl Cymru felly maent unwaith eto yn ymosod ar ein Senedd.

“Mae ymgyrch Rishi Sunak wedi cyrraedd pen y ffordd a does dim gobaith y bydd yr ymgais ddiog yma’n ei adfer."

Mae Y Byd yn ei Le ar gael ar S4C/Clic a BBC iPlayer.

Llun: Y Byd yn ei Le 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.