Newyddion S4C

Galw ar lywodraeth nesaf San Steffan i ganslo cynllun i godi gorsaf radar yn Sir Benfro

Newyddion S4C 11/06/2024

Galw ar lywodraeth nesaf San Steffan i ganslo cynllun i godi gorsaf radar yn Sir Benfro

Mae Is-Gadeirydd CND Cymru wedi galw ar y llywodraeth nesaf yn San Steffan i ganslo cynllun i godi gorsaf radar ddadleuol ar gyfer y gofod yn Sir Benfro.

Bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn ydy codi cyfanswm o 27 o ddisglau radar anferth ar safle presennol Baracs Cawdor fel rhan o gynllun DARC sydd yn bartneriaeth gyda llywodraethau America ac Awstralia o dan gytundeb AUKUS.

Yn ôl Jill Evans, Is-gadeirydd CND Cymru, fe fydd y cynllun yn cael "effaith ofnadwy" ar y gymuned leol a Chymru.

Cafodd safle Breudeth ei chlustnodi fel yr un sydd yn cael ei ffafrio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhrydain nôl ym mis Rhagfyr.

Does yna ddim cais cynllunio wedi ei gyflywno eto, ond mae adroddiad cychwynnol wedi cael ei anfon at Gyngor Sir Penfro, fydd yn ymdrin â'r cais.

Fe fydd y disglau radar ar gyfer DARC yn 20 metr o uchder ac yn 15 metr o led.

Bwriad cynllun DARC - Deep Space Advanced Radar Capability - ydy cadw golwg ar loerennau a gwrthrychau eraill yn y gofod, ac adnabod bygythiadau posib i ddiogelwch. 

Mae disgwul i'r safle DARC cyntaf, sydd yn cael ei adeiladu yn Awstralia, fod yn barod erbyn 2026, gyda phob un o'r tair safle yn weithredol erbyn 2030. 

Fe fydd y dechnoleg newydd yn medru darganfod gwrthrychau o faint pêl-droed, rhyw 22,000 o filltiroedd i ffwrdd yn y gofod.

Ar hyn o bryd, mae safle Breudeth yn gartref i Gatrawd Signal 14, ond fe fyddan nhw yn gadael eu cartref yn Sir Benfro yn 2028.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud y gallai'r safle radar newydd greu 100 o swyddi hir dymor. 

Fis Rhagfyr y llynedd, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y byddai DARC yn medru "darganfod bygythiadau posib i systemau amddiffyn a sifil yn y gofod" tra'n rhoi "hwb i'r diwydiant gofod."

Image
.

Mae Jill Evans, wedi ymosod ar y cynllun trwy gan alw ar y llywodraeth nesaf yn San Steffan i ganslo'r cynllun yn llwyr:

"Da ni eisiau codi ymwybyddiaeth pobl a chefnogi'r ymgyrch leol er mwyn canslo'r cynllun yma yn gyfangwbl. 

"Does dim angen hyn. Bydd e ddim yn diogelu ni fel Cymry. I'r gwrthwyneb. Mae'n hollol annerbyniol i edrych ar y gofod a rheoli'r gofod. Ni eisiau adeiladu Cymru wahanol a chenedl heddwch. Bydd yr effaith weledol ar Sir Benfro yn ofnadwy, ac mae yna bryderon am iechyd pobl."

Nid dyma'r tro cyntaf mae yna frwydr wedi bod yn lleol am greu gorsaf radar ym Mreudeth. Fe ddrechwyd cynlluniau blaenorol ym 1991 yn dilyn ymgyrch fywiog gan bobl leol.

Mae Roy Jones o Dre-groes unwaith eto yn rhan o'r ymgyrch, ar ôl bod y rhan o'r frwydr ar ddiwedd y Rhyfel Oer.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae'r ymgyrch yn tyfu. Mae'r pryderon iechyd yn ymwneud ag ymbelydredd sydd ynghlwm gyda thonfeddi radio. 

"O gwmpas mastiau teledu a radio mae yna dystiolaeth bod yna gynnydd mewn achosion o gansyr ymhlith pobl sydd yn byw o'u cwmpas nhw. Fe fydd y radar yma yn llawer mwy pwerus. Da ni ddim eisiau hwn unrhywle ym Mhrydain."

Image
Roy Jones
Roy Jones

Yn ôl y cynghorydd lleol, Mark Carter, mae angen sicrwydd nad oes perygl i iechyd ac y bydd y swyddi sydd yn cael eu haddo yn rhai i bobl yr ardal:

"Y peth pwysig yw nad oes yna effaith ar iechyd y cyhoedd. Mae'n rhaid iddo fod yn ddiogel, ac rwy eisiau ymrwymiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ei fod e'n ddiogel. 

"Rwy eisiau gweld hefyd sut y bydd yn effeithio ar y tirlun. Maen nhw yn dweud y bydd yna 100 o swyddi. Fe hoffwn i weld pobl leol yn cael blaenoriaeth ar gyfer y swyddi. 

"Os gallwn ni gadw presenoldeb y Weinyddiaeth Amddiffyn yma, yna d'wi'n gobeithio y bydd rhywbeth arall yn cael ei wneud yn y baracs. Rwy'n poeni am adroddiadau negyddol yn y wasg a d'wi ddim yn siwr ble mae'r wybodaeth wedi dod i gefnogi'r honiadau. 

"Fe hoffwn i glywed gan yr ymgyrchwyr ble mae'r wybodaeth wedi dweud."

Roedd y Parchedig Wiliam Owen o bentref Caerfarchell ger Breudeth hefyd yn gwrthwynebu'r cynllun diwethaf, ond mae'n cyfaddef bod y cais diweddaraf yma yn fater mwy cymhleth.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Beth oedd o'n plaid ni ym 1991 oedd bod y perygl y Rhyfel Oer yn tawelu. Ni wedi sylweddoli o'r rhyfel yn Wcráin a nifer o bethau eraill nad yw'r perygl mor dawel ag y buodd e. 

"Mae yna bryderon. Os edrychwch chi o gwmpas yr ardal hon fe welwch chi harddwch byd natur ac ymdrech i gynnal yr harddwch. Ni'n byw mewn perl o ran y tirlun y byd.  

"Fe fyddai'n weladwy ac yn tanseilio yr harddwch naturiol a'r hanes ysbrydol. Mae'r lle yn destun pererindod. Dyma ardal Dewi Sant. Bydd rhaid edrych yn ofalus ar beth sydd yn datblygu yn filwrol yn y gofod. Yn gyffredinol, mi fydden ni yn dweud bod y dafol yn mynd yn erbyn y cynllun."

Image
Y Parchedig Wiliam Owen
Y Parchedig Wiliam Owen

Un o'r prif resymau am yr angen i gadw golwg ar wrthrychau yn y gofod ydy'r bygythiad o gyfeiriad Rwsia a Tsieina.

Yn ôl Dr Bleddyn Bowen, arbenigwr ar ryfel yn y gofod o Brifysgol Caerlyr, mae'r dechnoleg newydd yn hollbwysig.

"Mae'r safleoedd radar yma yn adeiladu llun gwell o beth sydd yn digwydd yn y gofod. Mae dros 8-9000 o loerennau yn darparu pob fath o gyfleusterau a gweithgareddau  i ni nawr o ran yr economi, a diogelwch a defnydd milwrol. 

"Mae cael gwelll llun a dealllttwriaeth o beth mae pawb yn gwneud yn y gofod yn hynod o bwysig. Mae gwir angen y data byddai'r radars yma rhoi i ni o ran edrych ar y traffig o beth sydd yn digwydd yn y gofod, felly mae yna ddefnydd sifil yn fan'na ond mae yna fygythiad gan wledydd fel Rwsia a China oherwydd maen nhw wedi hala 30 mlynedd yn gweithio ar arfau gwrth-lloerennol, sydd yn targedu'r lloerennau ni'n defnyddio, ac mae gwledydd fel Wcráin yn defnyddio. 

"Bydd gwella data yn helpu ni ddadansoddi beth yn gwmws fel gwledydd fel Rwsia a Tsieina yn gwneud."

Doedd Cyngor Sir Penfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddim am wneud unrhyw sylw. Doedd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddim yn medru gwneud sylw oherwydd y cyfnod etholiadol.

Fe fydd angen asesiad o'r ffaith amgylcheddol a chais cynllunio llawn cyn y bydd modd cael caniatad i godi'r disglau radar newydd.

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Solfach am 7yh ar y 27ain o Fehefin i drafod effaith bosib cynllun DARC ar y Sir.

Barn y pleidiau

Dywedodd Stephen Crabb, Ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer Canolbarth a De Penfro: "Tra bod y mwyafrif o bobl yn deall bod diogelwch lloerennau ac is-adeiledd yn y gofod yn fater sydd o bwysigrwydd cynyddol ar gyfer ein diogelwch cenedlaethol, does yna ddim digon o wybodaeth wedi bod ar gael yn lleol ynglyn a chynllun DARC. 

"Pan ymddangosodd y cynlluniau yn 2023, fe wnes i annog y Weinyddiaeth Amddiffyn i gynnig mwy o wybodaeth i'r gymuned yn ardal Solfach a Thyddewi, ac fe wnes i ategu hynny yn y senedd fis diwethaf. 

"Rwy' wedi bod yn gefngowr balch o Faracs Cawdor, ac rwy'n falch o gysylltiad Sir Benfro gyda'r lluoedd arfog, ond mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn dipyn o waith i wneud o ran cryfhau hyder lleol yn y cynllun hwn. 

"Rwy'n disgwyl i'r broses gynllunio, sydd yn nwylo Cyngor Sir Penfro, i ystyried amrywiaeth barn yn y gymuned fydd yn cael ei heffeithio."

Gwnaeth Cris Tomos, ymgeisydd Plaid Cymru dros etholaeth Canolbarth a De Sir Benfro sylw ar Ymgyrch Sir Benfro yn Erbyn y Radar, a elwir hefyd yn PARC Yn Erbyn DARC:

“Bydd effaith Cysyniad Radar Uwch Gofod Dwfn, DARC,  yn fy marn i yn cael effeithiau negyddol aruthrol ar gymunedau a thrigolion presennol Breudeth a’i chymdogaeth. 

"Bydd yr effaith amgylcheddol yn sylweddol ac mae'n amheus faint o gyflogaeth leol fydd yn cael ei chreu. Yn wir, gallawn weld colli gweithgaredd economaidd o fewn y sector twristiaeth yn arwain at golli swyddi o ganlyniad i’r datblygiad hwn”. 

Ychwanegodd: “Mae angen i lywodraeth y DU roi mwy o sylw i ystyriaeth leol ac ymgynghori cymunedol wrth gyflwyno cytundebau diogelwch rhyngwladol o’r fath rhwng y DU ac Awstralia a’r Unol Daleithiau.” 

Mae rhaglen Newyddion S4C wedi cysylltu â'r blaid Lafur am ymateb.

Prif lun: Argraff artist o'r safle / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.