Un o bob pedwar plentyn yn cael eu gwybodaeth wleidyddol o YouTube
Mae un o bob pedwar plentyn yn cael eu gwybodaeth wleidyddol o YouTube, tra bod un o bob pump yn ei dderbyn ar TikTok, yn ôl arolwg newydd.
Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu nad yw'r mwyafrif o blant yn gwybod beth yw enw eu Haelodau Seneddol lleol.
Cafodd tua 2,000 o blant rhwng 8 ag 17 oed eu holi am eu hymwybyddiaeth wleidyddol fel rhan o gynllun sy’n cynnal pleidlais i blant cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae'r arolwg barn, gafodd ei gynnal yn gynharach eleni cyn i'r etholiad gael ei alw, yn awgrymu nad oedd 70% o'r bobl ifanc gafodd eu holi yn gwybod enw eu Haelod Seneddol lleol. Doedd hanner ddim yn gallu dweud i ba blaid wleidyddol yr oedd eu AS yn perthyn.
Dywedodd tua 39% o bobl ifanc nad ydyn nhw'n deall beth mae gwleidyddion yn ei wneud, yn ôl canfyddiadau'r ymchwil.
Awgrymodd casgliadau'r arolwg gan Opinium ym mis Chwefror yng Nghymru a Lloegr, fod ychydig dros hanner (51%) o blant 8 i 17 oed wedi cyfeirio at deulu fel ffynhonnell gwybodaeth wleidyddol, a dywedodd 41% fod eu gwybodaeth wleidyddol yn dod o'r newyddion ar y teledu.
Dywedodd bron i chwarter (24%) eu bod wedi cael newyddion gwleidyddol o YouTube, tra bod 20% wedi enwi TikTok fel sail i'w gwybodaeth.
Etholiad y plant
Mae’r etholiad i blant, a lansiwyd gan glymblaid o elusennau o dan yr ymgyrch Ein Cenhedlaeth Ein Pleidlais ym mis Mawrth, bellach wedi cofrestru tua 80,000 o bobl dan 18 oed i gymryd rhan.
Mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi ar 28 Mehefin – wythnos cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Nod y cynllun – sy’n cynnwys gwaith gan Achub y Plant, Girlguiding, a Dinasyddion Ifanc – yw sicrhau bod addysg wleidyddol ar gael i bobl ifanc drwy “adnoddau credadwy, diduedd, sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid sy’n cymryd rhan, gyda ffocws ar gyrraedd y rheini o gymunedau ymylol."
Dywedodd Meg Briody, pennaeth cyfranogiad plant a phobl ifanc yn Achub y Plant y DU: “Gyda thair wythnos i fynd tan yr Etholiad Cyffredinol, mae nawr yn amser hollbwysig i leisiau plant gael eu clywed.
“Mae canlyniadau ein hymchwil yn datgelu sut mae pobl ifanc ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu gan wleidyddion.
"Mae’r arolwg barn yn dangos i ni’r angen am brosiectau llythrennedd gwleidyddol fel ‘Ein Cenhedlaeth Ein Pleidlais’ i gynnwys pobl ifanc mewn democratiaeth a’n prosesau gwleidyddol.
“Rydyn ni wedi ymuno â rhai o sefydliadau ieuenctid mwyaf blaenllaw’r DU i greu cyfle i lwyfannu barn pobl ifanc, yn enwedig gan bobl ifanc sydd wedi teimlo nad ydyn nhw’n cael eu cynrychioli mewn gofodau gwleidyddol.”