Newyddion S4C

Burger King Bangor: Galw dyn yn ôl i'r carchar wedi digwyddiad â 'llafn'

11/06/2024
burger king bangor

Mae dyn wedi cael ei alw yn ôl i'r carchar wedi digwyddiad gyda "llafn" mewn bwyty Burger King ym Mangor. 

Fe gafodd yr heddlu eu galw ddydd Gwener wedi adroddiadau o ffrae yn ardal Ffordd y Garth yn y ddinas. 

Fe gafodd dyn 52 oed ei arestio ar amheuaeth o gael arf yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, o achosi affräe ac o ymosod. 

Mae'r dyn bellach wedi cael ei alw yn ôl i'r carchar. 

Dywedodd yr Arolygydd Andy Davies: "Hoffwn ddiolch i'r rhai a wnaeth ein galw ni ddydd Gwener i adrodd am y digwyddiad yma.

"Fe wnaeth swyddogion fynd i'r lleoliad ac arestio dyn, ac fe gafodd ei alw yn ôl i'r carchar gan ei fod ar drwydded."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.