Rhybudd i deithwyr wrth i Pink berfformio yng Nghaerdydd
Mae disgwyl prysurdeb ar y ffyrdd wrth i Pink berfformio yng Nghaerdydd nos Fawrth.
Fe fydd y gantores fyd-enwog yn dechrau ei thaith Ewropeaidd yn Stadiwm y Principality, gan ddychwelyd i'r DU i berfformio am y tro cyntaf mewn pum mlynedd.
Bydd degau ar filoedd o gefnogwyr yn teithio i Gaerdydd nos Fawrth, gydag awdurdodau yn rhybuddio am oedi ar draffordd yr M4.
Fe fydd Heol Scott a Stryd y Parc ar gau o 07:00 fore Mawrth, ac fe fydd nifer o ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau o 15:00 tan hanner nos.
Mae'r rhain yn cynnwys Stryd Duke, Heol Eglwys Fair, Stryd y Castell a Sgwâr Canolog.
Mae pobl gyda thocynnau yn cael eu cynghori i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan yn bosib.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn ac mae gyrwyr yn cael eu cynghori i ddefnyddio gwefan Traffig Cymru cyn dechrau ar eu taith.
Mae parcio ar gael yng Ngerddi Soffia, ac mae gwasanaeth parcio a theithio ar gael o Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod yn darparu capasiti ychwanegol ar drenau i mewn ac allan o Gaerdydd pan yn bosib, ond fod disgwyl i wasanaethau fod yn brysur iawn.