Newyddion S4C

Holi trigolion un o etholaethau mwyaf Cymru

10/06/2024

Holi trigolion un o etholaethau mwyaf Cymru

Mae'r gamlas ym Mhontardawe yn atgof o hanes.

Bu'n gwasanaethu'r gweithfeydd glo a chopr a ddaeth a chymaint o waith.

Mae'r gweithfeydd wedi mynd.

Heddiw, mae'r bobl yma yn gweld diffyg arian yn eu cymunedau i gynnal gwasanaethau lleol, yn ôl cynghorydd annibynnol.

"Popeth yn cau lawr - y pwll nofio, Cross Community Centre.

"Mae Lloyds Bank yn mynd i gau amser Nadolig."

"Ni'n colli popeth ym Mhonty ac mae'r pwll nofio'n mynd i gau.

"'Sdim bysus i fynd i Abertawe na Chastell-nedd."

"'Sdim gwaith o gwbl ym Mhonty nawr - dim o gwbl."

"Y bwrdd iechyd leol, mae pawb yn achwyn am hwnna."

Dyna flas o'r teimladau ym Mhontardawe.

Taith nawr i dref arall yn yr etholaeth enfawr yma rhyw 30 milltir i ffwrdd a bron i awr o yrru i glywed gan etholwyr yno.

Gadael y rhesi o dai teras yn y cwm a gyrru i mewn i'r parc cenedlaethol a'r ardal wledig sy'n nodweddiadol o weddill yr etholaeth.

Ar lannau'r Afon Wysg mae Aberhonddu yn yr hen Sir Frycheiniog.

Mae amaeth, rhan fawr o'r economi ers canrifoedd, yn hollbwysig.

"Cefnogaeth i ffermwyr.

"Cefnogaeth ariannol i ffermwyr i barhau."

"Y peth mawr yw'r economi a chostau byw.

"I fi'n bersonol, dw i'n poeni be sy'n mynd i ddigwydd i addysg.

"Methu cael digon o athrawon a dim digon o adnoddau i ysgolion iddyn nhw gael eu rhedeg yn gywir."

Ymlaen nawr i ran ola'r daith, gadael Sir Frycheiniog a gyrru tua'r gogledd i Sir Faesyfed a'r dre ola ar yr ymweliad sy'n 30 milltir arall i fyny'r ffordd.

Rhaeadr yr Afon Gwy sy wedi rhoi'r enw i'r dref hon yn yr etholaeth.

Mae Cwm Tawe yn teimlo'n bell.

Ardal amaethyddol a thwristaidd gydag atyniadau Cwm Elan yn agos.

Mae gan Sian fythynnod gwyliau ac mae'n ffermio ar gyrion Rhaeadr.

"Amaeth, iechyd ac addysg.

"Yn amaeth, yr ansicrwydd a'r pethau sy'n mynd ymlaen.

"Y problemau sy gyda iechyd, pobl ddim yn cael llawdriniaeth pryd maen nhw eisiau a nawr tabledi sydd ddim ar gael."

O gostau byw i amaeth i bryder am wasanaethau mae gan yr etholwyr ddigon ar eu meddwl.

Pwy bynnag fydd yn ennill y sedd, bydd digon o waith ac o deithio i gynrychioli pobl ym mhob rhan o'r etholaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.