Newyddion S4C

Maniffesto’r Ceidwadwyr: Rishi Sunak ‘yn deall pam fod pobl yn rhwystredig’

11/06/2024

Maniffesto’r Ceidwadwyr: Rishi Sunak ‘yn deall pam fod pobl yn rhwystredig’

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dweud ei fod yn “deall pam fod pobl yn rhwystredig” gydag ef a’i blaid wrth i'r Ceidwadwyr lansio eu maniffesto ddydd Mawrth.

Daw hyn wrth iddo obeithio troi dalen newydd ar ymgyrch y Ceidwadwyr ar ôl dod dan y lach dros y penwythnos am adael digwyddiadau i nodi 80 mlynedd ers D-Day yn gynnar.

Dywedodd wrth lansio maniffesto ei blaid bod y wlad wedi “bod trwy gyfnod anodd iawn” ond “diolch i waith caled a gwytnwch pobl Prydain a gweithredoedd y llywodraeth rydyn ni wir wedi troi cornel”.

“Mae chwyddiant yn ôl i normal, yr economi yn tyfu, cyflogau’n codi, biliau ynni’n gostwng, a dyna pam mae’r etholiad hwn yn un am y dyfodol,” meddai.

“Edrychwch beth mae’r maniffesto hwn yn ei gynnwys – toriad treth i bawb mewn gwaith wrth i ni haneru cyfradd yswiriant gwladol.”

Fe wnaeth hefyd addo “diddymu'r brif gyfradd o yswiriant gwladol hunangyflogedig yn gyfan gwbl” yn y senedd nesaf er mwyn annog menter a busnes.

Bydd y Ceidwadwyr hefyd yn darparu 1.6 miliwn o gartrefi newydd os byddant yn cael eu hethol, trwy gyflymu’r broses gynllunio ar dir llwyd yng nghanol dinasoedd a “sgrapio cyfreithiau diffygiol yr UE,” meddai.

Cymryd arian’

Mynnodd y Prif Weinidog Rishi Sunak bod “plaid Margaret Thatcher” yn credu mewn “sefydlogrwydd ariannol”.

Dywedodd y bydd y Ceidwadwyr os ydyn nhw’n ennill yr etholiad yn “gostwng budd-daliadau fel bod modd cael trethi is”.

Mae’r maniffesto yn addo peidio â chynyddu treth incwm, yswiriant gwladol na chwaith Treth ar Werth.

Mae hefyd yn addo hybu cronfa Codi’r Gwastad gyda £20m ar gyfer 30 o drefi yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Mr Sunak ddydd Mawrth: “Mae gennym ni y Ceidwadwyr gynllun i roi sicrwydd ariannol i chi.

“Byddwn yn galluogi pobl sy’n gweithio i gadw mwy o’r arian rydych yn ei ennill.

“Chi sydd wedi’i ennill a dylai fod gennych yr hawl i ddewis ar beth i’w wario.

“Mae gan Keir Starmer farn wahanol iawn.

“Mae’n dweud ei fod yn sosialydd, ac rydyn ni’n gwybod beth mae sosialwyr bob amser yn ei wneud: cymryd mwy o’ch arian."

Ychwanegodd: “Rydyn ni’n gwybod y bydd y cynlluniau mae Llafur eisoes wedi’u cyhoeddi yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw godi trethi £2,094 ar aelwydydd sy’n gweithio.

“Rydym ni’r Ceidwadwyr wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd oherwydd Covid.

“Ond ni yw plaid Margaret Thatcher a Nigel Lawson - plaid, yn wahanol i Lafur, sy’n credu mewn sefydlogrwydd ariannol.”

‘Olwynion wedi dod i ffwrdd’

Dywedodd Pat McFadden, cydlynydd ymgyrch genedlaethol Llafur: “Yr un peth i’w wybod am faniffesto’r Torïaid yw nad yw’r arian yno ar gyfer y gyfres o addewidion sydd gyda nhw.

“Roedd hygrededd economaidd yn bwysig i’r Ceidwadwyr ar un cyfnod. Nawr, yn eu hanobaith, maen nhw'n treulio pob dydd yn difetha eu henw da eu hunain.”

Dywedodd Wendy Chamberlain, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar waith a phensiynau: “Nid yw maniffesto Rishi Sunak werth y papur y mae wedi’i argraffu arno.

“Mae’r olwynion eisoes wedi dod oddi ar eu hymgyrch, a dim ond ymgais orffwyll i achub croen Rishi Sunak yw’r addewidion diweddaraf hyn.”

Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: “Mae angen gonestrwydd gan bleidiau San Steffan ar bolisi treth. 

"Mae ein system dreth bresennol yn annheg, gyda phobl fel Rishi Sunak yn talu llawer llai o dreth ar fuddsoddiadau nag y mae gweithwyr yn ei wneud ar waith caled. Byddai Plaid Cymru yn cydraddoli treth ar enillion cyfalaf â threth incwm, a fyddai’n codi £15 biliwn y flwyddyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.