Amy Dowden yn dychwelyd i ddawnsio ar Strictly Come Dancing eleni
Bydd Amy Dowden yn dychwelyd i ddawnsio ar Strictly Come Dancing eleni fel un o'r dawnswyr proffesiynol ar ôl methu'r sioe y llynedd oherwydd canser y fron.
Roedd yn flwyddyn i ddydd Gwener ers i’r ddawnswraig o Gaerffili gael llawdriniaeth ar gyfer y canser.
Cafodd wybod gan ddoctoriaid ym mis Chwefror eleni nad oes yna bellach dystiolaeth o’r afiechyd yn ei chorff.
Serch hynny ni fydd yn gwybod i sicrwydd bod y canser wedi mynd yn gyfan gwbl nes pum mlynedd ar ôl derbyn y driniaeth.
Ar ôl i’r BBC ddatgelu'r dawnswyr proffesiynol a fydd yn cymryd rhan eleni fe gyhoeddodd Amy Dowden neges ar ei thudalen Instagram yn dweud: “Dw i mor hapus a diolchgar i fod yn ôl ar Strictly - mae fy nghalon i mor hapus.
“Y tîm gorau ar y llawr dawnsio ac oddi arno.
“Sai'n gallu disgwyl i fod yn ôl yn gwneud yr hyn dwi'n ei garu fwyaf yn y byd, dawnsio!
“Mae’n teimlo'n fendigedig ac yn fwy cyffrous nag ERIOED. Amdani! Diolch Strictly am eich cefnogaeth barhaus. Waaaaaa.”
Cafodd y dawnswyr proffesiynol fydd yn ymddangos y tymor nesaf eu cyhoeddi ddydd Llun.
Roedd enw Giovanni Pernice, 33, yn absennol yng nghanol ymchwiliad i gamymddwyn honedig yn y gweithle.
Bydd cyfres Strictly Come Dancing, sy’n 20 oed eleni, yn dychwelyd i BBC One a BBC iPlayer yn ystod yr hydref.
Llun: Amy Dowden/Instagram