Newyddion S4C

Dau fachgen 12 oed yn euog o lofruddio dyn mewn 'ymosodiad ciaidd'

10/06/2024
Shawn Seesahai

Y gred yw mai dau fachgen 12 oed yw'r ieuengaf erioed i'w cael yn euog o lofruddiaeth yn ymwneud â chyllyll yn hanes troseddol y DU.

Ddydd Llun fe ddaeth rheithgor yn Llys y Goron Nottingham i gasgliad unfrodol fod y ddau - nad oes modd eu henwi o achos eu hoedran - yn euog o lofruddio Shawn Seesahai, 19 oed, mewn parc yn Wolverhampton.

Roedd Mr Seesahai, wedi ei drywanu drwy ei galon ar ôl dioddef ymosodiad ciaidd gydag arf machete.

Mae'n ymddangos mai'r ddau fachgen yw'r ieuengaf i'w cael yn euog o lofruddiaeth ers i Robert Thompson a Jon Venables fod yn euog o lofruddio'r bachgen dyflwydd oed James Bulger yn 1993.

Fe wnaeth aelodau o deuluoedd y dioddefwr a'r bechgyn gofleidio ei gilydd yn y llys pan gafodd yr euogfarn ei chyhoeddi.

Mewn cyfweliad yn dilyn yr achos, dywedodd rhieni Mr Seesahai, Suresh a Maneshwary, na fydd modd iddyn nhw fyth ddygymod gyda cholli eu mab.

Clywodd y llys yn ystod yr achos bod Mr Seesahai wedi cael ei daro gan ysgwydd y lleiaf o'r dau ddiffynydd yn fwriadol - bachgen oedd yn "aml" yn cario machete gyda llafn 42.5cm o hyd arno.

Aeth y ddau ati i gicio, dyrnu ag ymosod ar Mr Seesahai gyda'r arf.

Ar ôl gwrthod ateb cwestiynau'r heddu yn dilyn y llofruddiaeth, fe wnaeth y ddau fachgen weld bai ar ei gilydd yn ystod tystiolaeth i'r llys.

Llun teulu

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.