Newyddion S4C

CBeebies: Actor enwog yn darlledu stori seiciatrydd o Wrecsam am heriau diabetes i blant

10/06/2024
James Norton

Bydd un o sêr y gyfres Happy Valley yn darllen stori gan awdur a seicolegydd o Wrecsam ar raglen teledu boblogaidd i blant yr wythnos hon er mwyn helpu plant ifanc deall mwy am ddiabetes. 

A hithau’n Wythnos Diabetes, mi fydd James Norton sydd yn byw â diabetes math 1, yn darllen y llyfr ‘How to Manage a Mammoth’ ar raglen CBeebies Bedtime Stories ddydd Gwener – llyfr sydd wedi’i ysgrifennu gan Dr Rose Stewart, Seicolegydd Clinigol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. 

Dywedodd Dr Stewart fod cael “llwyfan enfawr” fel CBeebies, a seren fel James Norton i ddarllen ei llyfr yn “ddatblygiad cyffrous iawn” i’r rheiny sy’n ymwneud â’r llyfr, yn ogystal â’r rheiny sy’n byw â diabetes. 

“Rydym yn gobeithio y bydd gallu cyfathrebu am straen byw gyda chyflwr hirdymor ar slot teledu prif ffrwd, yn helpu plant a theuluoedd ledled y DU i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso, yn ogystal â gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain os ydyn nhw'n teimlo eu bod yn cael trafferth,” meddai. 

'Ofnus'

Mae’r llyfr, a gafodd ei gyhoeddi drwy gydweithrediad â GIG Cymru a Gwasg Prifysgol Caergrawnt, yn dilyn taith Jake, bachgen 8 oed, wrth iddo ddeall sut i fyw â’r cyflwr. 

Mae Jake yn dychmygu bod ei ddiabetes yn famoth o’r enw Mel, ac mae'n dod at ei gilydd gyda’i fam a’i ffrindiau i feddwl am ffyrdd i wneud Mel y mamoth diabetes yn llai ac yn haws i’w reoli. 

Nod y llyfr yw helpu plant ifanc sydd naill ai’n byw â’r cyflwr, neu yn adnabod rhyw un sydd yn byw â’r cyflwr, i ddeall sut i’w reoli a’i dderbyn. 

Trwy feddwl am ddiabetes fel anifail, mae modd deall na fydd y cyflwr yn diflannu ond bod angen ei reoli, meddai’r awdur. 

Wedi iddo gael diagnosis o ddiabetes math 1 yn 22 oed, dywedodd yr actor James Norton: "Ci mawr blewog o'r enw Bruce yw fy anifail diabetes i. Roedd o'n gi bach pan ddaeth ataf i yn gyntaf. Roedd o'n anodd ei reoli oherwydd ei fod yn cyffroi cymaint.

“Erbyn hyn, mae'n hŷn ac yn dawelach. Mae'n dal i deimlo'n ofnus pan fydd rhywun wrth y drws neu pan fydd o'n llwglyd. 

“Dw i'n falch iawn o ddweud bod Bruce erbyn hyn dan reolaeth ac yn dawel, sy'n fy ngwneud i deimlo'n hapus, ac mae'n haws ymlacio."

Bydd y rhaglen CBeebies Bedtime Story gyda James Norton yn cael ei darlledu ar CBeebies am 6.50pm ddydd Gwener, 14 Mehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.