Newyddion S4C

Dr Michael Mosley 'wedi marw o achosion naturiol'

10/06/2024
Mosley / Ynys Symi

Yn ôl adroddiadau o Wlad Groeg, bu farw Dr Michael Mosley o achosion naturiol ac nid oedd unrhyw anafiadau ar ei gorff allai fod wedi arwain at ei farwolaeth.

Cafodd corff y meddyg a'r darlledwr ei ddarganfod ar ynys Symi ddydd Sul, a'r gred yw ei fod wedi marw am 16:00 ddydd Mercher.

Roedd Dr Mosley, oedd yn 67 oed, wedi mynd ar goll wedi iddo adael ei wraig a’i ffrindiau ar draeth Agios Nikolas yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Mae lluniau cylch cyfyng newydd sydd wedi eu rhoi i'r heddlu ar yr ynys yn dangos y darlledwr yn cerdded i lawr ochr mynydd caregog cyn iddo ddisgyn o olwg y camera.

Ar ôl ymdrechion gan yr heddlu a chriwiau tân ac achub i ddod o hyd iddo am bedwar diwrnod, cafwyd hyd i'w gorff fore Sul yn agos at ogofau ger pentref Pedi, tua 10 metr o’r môr.

Teyrngedau

Mae ei gyd-weithwyr ar gyfres y BBC Trust Me, I’m A Doctor wedi rhoi teyrngedau iddo, gan ddweud ei fod wedi gwneud “pethau anhygoel i feddygaeth ac iechyd cyhoeddus, mewn ffordd nad oes eraill wedi ei wneud.”

Wrth siarad ar raglen deledu BBC Breakfast fore dydd Llun, dywedodd Dr Saleyha Ahsan y byddai’n cofio Dr Mosley “fel mentor ac fel ffrind.” 

“Y ffordd nes i ddod i’w adnabod o ar y sgrin, y cymeriad cyfeillgar yna… dyna’n union sut yr oedd o mewn gwirionedd, ac sut yr oedd o gyda mi,” meddai.

“Roedd ganddo’r gallu i dorri syniadau cymhleth i lawr a’u gwneud nhw’n hawdd i'w deall er lles pawb. 

“Gall gwyddoniaeth fod yn llawn jargon… ond fe wnaeth lwyddo i gael at y prif bwynt, y prif negeseuon, a'u rhannu nhw gyda’r cyhoedd fel ein bod ni i gyd yn gallu manteisio o’r ymchwil ‘na. 

“Y peth arall dwi wedi bod yn meddwl amdano yw ymddiriedaeth, roedd ganddo’r gallu i wneud i ni ymddiried ynddo ef,” ychwanegodd. 

'Ffrindiau'

Ag yntau hefyd yn cyflwyno Trust Me, I’m A Doctor gyda Dr Ahsan a Dr Mosley, dywedodd Chris van Tulleken bod y darlledwr wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo. 

“Fe all darlledu bod yn gystadleuol iawn. 

“Ond roedd Michael wedi gosod tôn fel yr oeddem ni gyd yn gallu gwneud ffrindiau. Roeddem ni’n ffrindiau ar y sgrin a thu hwnt. 

“Fe wnaeth e greu'r syniad hael hwn ein bod ni i gyd gyda'n gilydd, ac felly roedd wedi cynnig gymaint o gymorth oddi ar y sgrin hefyd.”

Daw’r teyrngedau wedi i wraig Dr Mosley, Dr Clare Bailey Mosley, ei ddisgrifio fel dyn “oedd yn llawn antur” ddydd Sul.

"Cawsom fywyd hynod o ffodus gyda'n gilydd. Roedden ni'n caru ein gilydd yn fawr ac mor hapus gyda'n gilydd.

“Mae fy nheulu a minnau wedi’n cysuro’n fawr gan y cariad sy’n cael ei rannu gan bobl o bob rhan o’r byd. Mae’n amlwg bod Michael wedi golygu llawer iawn i gynifer ohonoch,” meddai mewn datganiad.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.