Newyddion S4C

Hufenfa Mona ar Ynys Môn wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr

10/06/2024
Hufenfa Mona

Mae Hufenfa Mona yng Ngwalchmai ar Ynys Môn wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. 

Roedd pryderon am ddyfodol yr hufenfa ddiwedd Mai wedi i'r cwmni ddatgan eu bod nhw wedi methu sicrhau "cyllid tymor byr".

Roedd wedi bod yn gweithredu ar y safle ar yr ynys ers 2022.

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd y cwmni: "Fe gafodd Anthony Collier a Phil Reynolds o FRP Advisory eu penodi fel Gweinyddwyr gan Hufenfa Mona Ynys Môn ar 7 Mehefin 2024.  
 
"Mae'r Gweinyddwyr ar hyn o bryd yn archwilio opsiynau gwahanol ar gyfer Hufenfa Mona Ynys Môn, ac fe fyddant maes o law yn cysylltu gyda phob chredydwr." 
 
Roedd 31 o gynhyrchwyr yn cyflenwi Hufenfa Mona, ac roedd y cwmni wedi buddsoddi £20m yn ei safle yn ddiweddar, gyda £3m mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru. 
 
Roedd gan y safle gynlluniau i fod y ffatri gaws fwyaf cynaliadwy yn Ewrop, gyda'r gobaith o greu mwy na 100 o swyddi, a chynhyrchu hyd at 7,000 tunnell o gaws y flwyddyn. 
 
Mewn datganiad ddiwedd Mai, dywedodd y cwmni eu bod yn "brwydro yn erbyn nifer o ffactorau allan o'n rheolaeth" a bod nhw yn methu parhau i weithredu yn y modd yr oeddynt am ei wneud ar y pryd.
 
'Cyfnod anodd'
 
Wrth ymateb i'r newyddion ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn amlwg yn newyddion pryderus i weithwyr a chyflenwyr Mona Dairy, eu teuluoedd a'r gymuned leol.
 
"Rydym mewn cysylltiad â'r cwmni i weld sut y gallwn eu cefnogi nhw a'u gweithlu drwy'r broses hon. Byddwn yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i ni er mwyn cefnogi'r staff i gael yr ystod lawn o gymorth sydd ei angen arnynt.  
 

"Rydym hefyd wedi cwrdd â'r undebau ffermio yn dilyn y cyhoeddiad hwn i drafod pryderon eu haelodau. Mae lles ffermwyr yn flaenoriaeth ac mae undebau ffermio yn gweithio gyda'u haelodau i sicrhau bod ffermwyr yn cael y cymorth angenrheidiol ar hyn o bryd."

Dyweddodd Rhun ap Iorwerth, yr aelod o Senedd Cymru dros Fôn ac arweinydd Plaid Cymru: "Mae’r newyddion heddiw bod Hufenfa Mona wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn hynod o drist. 
 
"Mae’n gyfnod anodd iawn i gyflenwyr llaeth, rwyf wedi bod mewn cysylltiad gyda nifer ohonynt dros yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n gwybod eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gadael lawr, fel y mae'r staff hefyd. 
 
"Mae'n rhaid i ni geisio dod i waelod yr hyn sydd wedi mynd o'i le ac ystyried yr holl opsiynau posibl ar gyfer adfywio a chefnogi'r busnes.  Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am sut y maent yn bwriadu ymyrryd, ond nid wyf wedi derbyn ateb eto.  
 
"Byddaf yn parhau i wneud ymholiadau ar frys, ac yn darparu unrhyw ddiweddariadau cyn gynted â phosibl."
 
'Siomedig'
 
Dywedodd Virginia Crosbie, ymgeisydd y Blaid Geidwadol ar gyfer Ynys Môn: "Mae’n newyddion siomedig iawn ac mae fy meddyliau gyda’r rhai sy’n wynebu colli eu swyddi.
 
"Roedd Mona Dairy yn gwmni arloesol gyda ffocws ar gynaliadwyedd ond, yn anffodus, roedd wedi bod yn ei chael hi’n anodd ers peth amser bellach.
 
"Mae'r cyfleusterau yn sicr yn flaengar a gobeithio y bydd hynny'n ei wneud yn gynnig busnes deniadol. Rwy'n gobeithio y gall y gweinyddwyr ddod o hyd i brynwr yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach fel nad yw gweithwyr yn cael eu gadael ag ansicrwydd."
 
Dywedodd Leena Farhat, ymgeisydd Y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Ynys Môn: "Yn y tymor byr, gobeithio, bydd prisiau marchnad llaeth cryf ynghyd â chynnyrch llaeth gwan yn y gwanwyn yn galluogi proseswyr eraill i gamu i mewn a helpu cyflenwyr presennol Mona Dairy. 
 
"Fodd bynnag, mae ateb hirdymor yn gofyn am ddod o hyd i berchennog newydd i ddefnyddio'r cyfleusterau o'r radd flaenaf ar Ynys Môn. Mae ymrwymiad Mona Dairy i gynaliadwyedd a’i botensial economaidd yn ei wneud yn ased gwerthfawr. 
 
"Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i sefyll wrth ymyl ein ffermwyr i chwarae rhan gefnogol i sicrhau canlyniad cadarnhaol i’r cwmni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.