Macron yn galw etholiad sydyn wedi canlyniad siomedig i'w blaid
Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron wedi galw etholiad sydyn, annisgwyl ar ôl i’w blaid gael ei drechu gan yr asgell dde yn yr etholiadau Ewropeaidd.
Fe enillodd y National Rally fwy na 31% o’r bleidlais yn Ffrainc. Roedd hyn fwy na dwbl y pleidleisiau i blaid Mr Macron, Renaissance.
Wrth annerch y boblogaeth ar y teledu dywedodd Mr Macron, “Dwi wedi penderfynu rhoi’r dewis i chi o safbwynt dyfodol ein senedd. Dwi felly yn terfynu'r Cynulliad Cenedlaethol,” meddai.
Dyw dyfodol Mr Macron ddim yn y fantol am fod ganddo dair blynedd ar ôl fel Arlywydd. Ond mae’r polau piniwn yn darogan buddugoliaeth arall i’r National Rally, sy’n cael ei harwain gan Marine Le Pen a Jordan Bardella.
Mewn rhai gwledydd eraill yn Ewrop y pleidiau i’r dde o’r canol oedd yn dathlu.
Fe wnaethon nhw gryfhau eu mwyafrif yn Senedd Ewrop gyda buddugoliaeth yn yr Almaen, Groeg, Gwlad Pwyl a Sbaen.
Yn Hwngari hefyd mi wnaeth y blaid newydd Tisza ennill tir yn erbyn y Prif Weinidog, Viktor Orban. Dim ond ers dau fis mae’r blaid honno wedi ei sefydlu gan Peter Magyar.
Er mai dim ond llond llaw o lywodraethau i’r chwith o’r canol sydd mewn grym yn Ewrop roedd hi’n noson lwyddiannus i’r gynghrair Y Gwyrddion - Llafur yn yr Iseldiroedd ac i’r wrthblaid yn Denmarc.