Newyddion S4C

Rob Page yn ymddiheuro i'r Wal Goch ar ôl i Gymru golli yn erbyn Slofacia

10/06/2024
Rob Page

Mae’r pwysau yn cynyddu ar ddyfodol rheolwr Cymru wedi i’w dîm golli yn erbyn Slofacia nos Sul.

Fe wnaeth Rob Page ymddiheuro i’r Wal Goch ar ôl i Gymru golli o 4-0 mewn gêm gyfeillgar yn Tvarna.

Gêm gyfartal oedd hanes Cymru yn y gêm gyfeillgar arall yn erbyn Gibraltar ym Mhortiwgal ddydd Iau.

Wrth wynebu cytgan o 'fwio' gan y cefnogwyr dywedodd Rob Page ei fod yn deall eu “rhwystredigaeth.”

“Dwi’n deall yn iawn, dwi’n gefnogwr fy hun.

“Os ydy’r pwerau uwch fy mhen yn penderfynu mai nid fi yw’r un i'ch arwain yn bellach, dyna felly fydd eu penderfyniad,” meddai.

Roedd Page eisoes wedi gwneud saith o newidiadau wedi’r gêm yn erbyn Gibraltar, gyda Fin Stevens, Jay Dasliva, Josh Sheehan a Ben Cabango ymysg yr unig chwaraewyr oedd yn dychwelyd i’r cae nos Sul. 

Ond fe ildiodd Cymru sawl gôl, gyda’r capten dros dro Ethan Ampadu hefyd yn sgorio gôl dros dîm Slofacia. 

“Doedden nhw ddim ‘di gorfod gweithio’n galed iawn i sgorio, nathon ni rhoi goliau iddyn nhw,” meddai Rob Page. 

Ond mae rheolwr Cymru hefyd wedi “derbyn” fod rhaid iddo ef gymryd cyfrifoldeb am y golled.

“Dwi’n ymddiheuro i’r cefnogwyr.  Roedden nhw'n frwd eu cefnogaeth a dwi’n deall eu rhwystredigaeth. 

“Fe wnes i drio ymddiheuro ar ddiwedd y gêm… dwi’n derbyn hynny. 

“Roedd y chwaraewyr wedi rhoi bob dim, ond os ydyn ni’n edrych yn ôl ar y goliau – mae ‘na gamgymeriadau ac rydyn ni wedi talu'n ddrud am rheiny.”

'Rhywbeth o le'

Wrth siarad am ddyfodol Rob Page fel rheolwr Cymru, dywedodd cyn-chwaraewraig Cymru Gwennan Harries: “Mae'n rhaid i’r chwaraewyr cymryd cyfrifoldeb enfawr fanna, oedd y chwaraewyr yn sâl."

Doedd nifer o'r chwaraewyr ddim ar gael ar gyfer y ddwy gêm, gan gynnwys capten Cymru, Aaron Ramsey. Ond yn ôl Gwennan Harries mae angen edrych ar gyfnod Page wrth y llyw ers ychydig fisoedd.

“Os ‘dyn ni’n edrych ar gyfanrwydd o amser Page, ‘dyn ni heb chwarae yn da am sbel hir.

“O’n ni ddim yn chwarae da yn arwain lan at Cwpan y Byd, o’n ni’n sâl yn Cwpan y Byd. Ydyn, ni wedi cael cwpwl o berfformiadau gwych ar adegau – fi’n meddwl Croatia, falle adref.

“Ond mae’r anghysondeb yna yn y perfformiadau yn rili siomedig a falle yn y gorffennol ni ‘di cael y canlyniadau achos ni ‘di cael rhywun fel Bale sydd wedi achub ni.

“Ond s’dim gyda ni hwnna nawr felly mae’n adlewyrchu hyd yn oed yn waeth.

“Mae patrymau chwarae ni jyst ddim yn edrych fel creu o gwbl, yn amlwg mae rhywbeth o le fanna os mae’r chwaraewyr yn chwarae mor sâl a hwnna yn gyson.”

Dywedodd Malcom Allen: “Be’ ‘dyn ni ‘di gael allan o’r ddwy gêm [gyfeillgar]?

“Dim lot. Pwy sy ‘di creu argraff? Un chwaraewr ifanc deunaw oed, Lewis Koumas.

“O’n i ‘di meddwl mai cyfnod arbrofi i’r chwaraewyr ifanc ond maen nhw ‘di cael cyfle, maen nhw ‘di cael eu cyfle a rŵan ‘dyn nhw ddim ‘di gael gafael arno.

“Rŵan mae mynd i fod dim jyst tair wythnos ddiflas oherwydd ‘dyn ni ddim yn yr Ewros – ond tri mis.

“Ond ella fydd ‘na newid,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.