Newyddion S4C

Y cyn-chwaraewr pêl-droed Alan Hansen yn ddifrifol wael yn yr ysbyty

09/06/2024
Alan Hansen

Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl wedi cadarnhau bod eu cyn-chwaraewr Alan Hansen yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.

Dywedodd y clwb eu bod nhw yn rhoi cefnogaeth i deulu Mr Hansen yn ystod y "cyfnod hynod anodd" hwn.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y clwb: “Mae meddyliau a chefnogaeth pawb yn CPD Lerpwl gyda'n cyn-gapten chwedlonol Alan Hansen, sydd ar hyn o bryd yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.”

Mae'r clwb mewn cysylltiad uniongyrchol â theulu Mr Hansen, ac wedi gofyn am barchu eu preifatrwydd.

Mae Alan Hansen yn cael ei ystyried fel un o amddiffynwyr gorau’r Alban erioed.

Fe chwaraeodd fel amddiffynnwr i Partick Thistle ac i dîm llwyddiannus Lerpwl ar ddiwedd y 1970au a’r 1980au, ac i dîm cenedlaethol yr Alban.

Fe gafodd Hansen, sy'n 68 oed, yrfa lwyddiannus fel sylwebydd pêl-droed gyda’r BBC ar ôl iddo orffen chwarae. 

Fe weithiodd i Sky a Radio 5 Live cyn ymuno â thîm Match of the Day am 22 mlynedd cyn iddo adael yn 2014.

Roedd yn cael ei adnabod fel “Jockey’ gan ei gyd-chwaraewyr ac fe enillodd wyth teitl cynghrair, tri Chwpan Ewropeaidd, dau Gwpan FA a thri Chwpan y Gynghrair ar ôl chwarae 434 o gemau gyda Lerpwl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.