Dull ‘rhad a hawdd’ i helpu llysywod sydd mewn perygl
Gallai dull ‘rhad a hawdd’ newydd helpu rhywogaeth o lysywod sydd mewn perygl i nofio i fyny afonydd yn haws.
Yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, mae rhwystrau artiffisial yn amharu ar deithiau llysywod pan fyddan nhw’n cyrraedd afonydd y DU.
Mae’n helpu hefyd i arafu’r gostyngiad yn y boblogaeth.
Bob blwyddyn, mae mwy na biliwn o lysywod Ewropeaidd (Anguilla anguilla) yn teithio 4,000 o filltiroedd ar draws yr Iwerydd i Ewrop.
Ond mae’r creaduriaid yn dal yn ifanc iawn pan fyddan nhw'n teithio ar hyd llynnoedd ac afonydd y DU. Maen nhw’n gorfod nofio yn erbyn llif y dŵr i ddod o hyd i fannau bwydo.
Mae hyn yn gofyn am egni ac ymdrech sylweddol.
Gall rhwystrau fel argaeau a choredau (weirs) wneud hyn hyd yn oed yn fwy anodd gan gynnwys gwneud i afonydd lifo'n gyflymach.
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn credu y gallai'r ateb fod mewn teils gweadog a all arafu llif y dŵr. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i'r pysgod orffwys a chadw egni wrth deithio.
Yn cael eu hadnabod fel teils llysywod, maen nhw’n cael eu defnyddio i helpu’r pysgod i ddringo dros rwystrau.
Mae’r ymchwilwyr hefyd wedi gweld y gallai'r teils gael eu defnyddio mewn afonydd lle mae cyflymder dŵr yn uchel.
Fe wnaeth y tîm ymchwil ail-greu amodau afonydd a oedd yn llifo'n gyflym mewn tanc dŵr enfawr. Fe wnaethon nhw ganfod bod mwy o lysywod yn mynd drwodd pan oedd y teils wedi eu gosod.
Dywedodd awdur arweiniol yr ymchwil, Guglielmo Sonnino Sorisio, sy’n fyfyriwr PhD yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd: “Roedd yn syndod gweld pa mor dda â pha mor gyflym yr addasodd y llyswennod eu technegau nofio i’r amgylchedd newydd.”
"Mae pob llysywen Ewropeaidd yn cael eu geni ym Môr Sargasso, yr ochr arall i Gefnfor yr Iwerydd. Mae’n cymryd tua thair blynedd iddyn nhw gyrraedd y DU. Credir bod llai nag un o bob 500 o larfa yn goroesi’r daith hir a heriol hon."
Bydd y llysywod yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau yng nghynefinoedd dŵr y DU. Byddant wedyn yn gwneud un daith olaf yn ôl i Fôr Sargasso i fridio, ac yna’n marw. Cafodd yr ymchwil ei gynnal ar y cyd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru.