Cynnal pleidlais diffyg hyder yn y Llywodraeth yn 'opsiwn', medd Rhun ap Iorwerth
Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y byddai cynnal pleidlais diffyg hyder yn Llywodraeth Cymru yn “opsiwn” pe byddai Vaughan Gething yn parhau fel Prif Weinidog.
Mae Mr Gething wedi galw am ‘ddechreuad newydd’ ddydd Sadwrn yn dilyn y bleidlais diffyg hyder ynddo yn y Senedd ddydd Mercher diwethaf.
Mae wedi mynnu na fydd yn ymddiswyddo ar ôl y bleidlais hanesyddol ddydd Mercher, cafodd ei chynnal llai na thri mis ers iddo fod yn y swydd.
Fe gollodd Mr Gething y bleidlais diffyg hyder o 29 pleidlais i 27, oherwydd bod dau aelod Llafur, Hannah Blythyn a Lee Waters, yn absennol.
Er nad yw’r bleidlais yn rhwymol ac yn gorfodi Mr Gething i ymadael ei swydd, mae gwrthbleidiau wedi parhau â’u galwadau ar y Prif Weinidog i sefyll i lawr.
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales fore Sul, dywedodd Mr ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ei fod i fyny i’r Blaid Lafur nawr i benderfynu ar ddyfodol Mr Gething.
“Mae’n broses seneddol gwbl ddilys sydd wedi ei ddilyn am reswm da iawn, a hynny yw bod y Prif Weinidog wedi cael ei glymu mewn sgandal o’r fath nad ydyn ni wedi ei weld yma o’r blaen, ac un mae’r gwrthbleidiau yn teimlo y mae pobl Cymru yn teimlo, yw eu bod wedi colli hyder ynddo. Mae hyn ar Lafur nawr.”
Ar ôl cael ei holi am y posibilrwydd o gynnal pleidlais diffyg hyder yn y Llywodraeth ei hun, atebodd Mr ap Iorwerth: “Yn wir, mae o’n opsiwn a pe byddai pleidlais diffyg hyder yn y Llywodraeth yn cael ei chynnal, dw i’n eithaf sicr na fyddai unrhyw aelodau o’r Blaid Lafur yn ei golli oherwydd salwch, ac y byddai’r bleidlais yn cael ei hennill ac fe fyddwn ni yn union yr un safle ac yr ydym ynddi fore ‘ma.
“Mae hyn i fyny i’r Blaid Lafur. Mae i fyny iddyn nhw benderfynu os yw Vaughan Gething, gyda’r dyfarniad sâl y mae wedi ei ddangos yma, yn parhau i fod yn arweinydd iddyn nhw, ac arweinydd Llywodraeth Cymru.”
'Anodd'
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C yng Nghas-gwent ddydd Sadwrn, fe ddywedodd Mr Gething ei fod yn bwysig i’r Blaid Lafur i “sefyll gyda’i gilydd” drwy’r cyfnod hwn.
Mae’r gwrthbleidiau wedi ymateb drwy barhau â’u galwadau ar Mr Gething sefyll i lawr.
Dywedodd Mr Gething: “Os gallwn ni barhau a dod o hyd i ffordd drwodd i gael dechreuad newydd, dyna beth mae gen i ddiddordeb yn ei wneud.
“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod Llafur Cymru yn sefyll gyda’i gilydd. Dim ond yn ddiweddar dwi wedi cael fy ethol mewn pleidlais ddemocrataidd ar sail un aelod, un bleidlais.
“Rwy'n gwybod ei fod yn anodd i bobl yn fy mhlaid fy hun. Mae wedi bod yn anodd i mi a fy nheulu ond rydw i eisiau gwneud yr hyn sy'n iawn i'r wlad.”
Pan ofynnwyd i Mr Gething os oedd yn bwriadu ymddiswyddo, dywedodd: “Na”.
Mae Mr Gething wedi bod dan bwysau wedi iddo dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Gymreig gan gwmni oedd a'i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.
Roedd Mr Gething hefyd wedi gwrthod dangos unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei benderfyniad i sacio Hannah Blythyn o'i swydd yn y llywodraeth, wedi iddo honni ei bod hi wedi rhyddhau gwybodaeth i'r wasg. Mae Ms Blythyn wedi gwadu'r honiad.