Gerwyn Price yn ennill pencampwriaeth dartiau Meistri Nordig
09/06/2024
Mae’r Cymro Gerwyn Price wedi ennill pencampwriaeth dartiau Meistri Nordig yn Nenmarc.
Fe gurodd Rob Cross o Loegr 8-5 yn y rownd derfynol yn Copenhagen nos Sadwrn.
Fe aeth Price ar y blaen yn gynnar ac fe lwyddodd i wrthsefyll ymdrech hwyr gan Cross.
Roedd y Cymro wedi curo Dimitri Van den Bergh a chyn-bencampwr y byd, Michael Smith, ar y ffordd i'r rownd derfynol.
Fe gollodd Price, 39 oed o Markham, yn rownd derfynol y gystadleuaeth y llynedd ond fe fydd ennill £20,000 eleni yn sicr o wneud yn iawn am y siom hynny.
Llun: X/PDC Darts