Newyddion S4C

Vaughan Gething yn dymuno ‘dechreuad newydd’ ar ôl pleidlais diffyg hyder

Newyddion S4C 08/06/2024

Vaughan Gething yn dymuno ‘dechreuad newydd’ ar ôl pleidlais diffyg hyder

Mae Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething wedi dweud ei fod yn dymuno cael “dechreuad newydd” ar ôl colli pleidlais diffyg hyder yn y Senedd yr wythnos hon.

Mae Mr Gething wedi mynnu na fydd yn ymddiswyddo ar ôl y bleidlais hanesyddol ddydd Mercher, cafodd ei gynnal  llai na thri mis ers iddo fod yn y swydd.

Fe gollodd Mr Gething y bleidlais o 29 pleidlais i 27, oherwydd bod dau aelod Llafur yn absennol.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C yng Nghas-gwent ddydd Sadwrn, fe ddywedodd ei fod yn bwysig i’r blaid Lafur i “sefyll gyda’i gilydd” drwy’r cyfnod hwn.

Mae’r gwrthbleidiau wedi ymateb drwy barhau â’u galwadau ar Mr Gething sefyll i lawr.

Dywedodd Mr Gething:  “Os gallwn ni barhau a dod o hyd i ffordd drwodd i gael dechreuad newydd, dyna beth mae gen i ddiddordeb yn ei wneud.

“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod Llafur Cymru yn sefyll gyda’i gilydd. Dim ond yn ddiweddar dwi wedi cael fy ethol mewn pleidlais ddemocrataidd ar sail un aelod, un bleidlais. 

“Rwy'n gwybod ei fod yn anodd i bobl yn fy mhlaid fy hun. Mae wedi bod yn anodd i mi a fy nheulu ond rydw i eisiau gwneud yr hyn sy'n iawn i'r wlad.”

Pan ofynnwyd i Mr Gething os oedd yn bwriadu ymddiswyddo, dywedodd: “Na”.

Mae Mr Gething wedi bod dan bwysau wedi iddo dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Gymreig gan gwmni oedd a'i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Roedd Mr Gething hefyd wedi gwrthod dangos unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei benderfyniad i sacio Hannah Blythyn o'i swydd yn y llywodraeth, wedi iddo honni ei bod hi wedi rhyddhau gwybodaeth i'r wasg. Mae Ms Blythyn wedi gwadu'r honiad.

‘Tanseilio’r Senedd’

Dywedodd Tom Giffard o’r Ceidwadwyr Cymreig: “Dwi’n credu fod o’n bwysig fod Vaughan Gething yn gwrando i beth mae’r Senedd wedi dweud wrtho fe, dyw e ddim yn cael hyder mewn arweiniaeth Vaughan Gething. 

“Ac mae hynny’n meddwl bod impasse yn ein gwleidyddiaeth ni. Bydd e’n anodd cael legislation a budgets yn digwydd trwy’r Senedd ac y rheswm am hynny yw bydd yn rhaid i fe gweithio ‘da pobl sydd wedi dweud odd ddim hyder yn ei arweiniaeth e, felly mae’n anodd i weld  sut mae hwn yn mynd i symud ymlaen, felly'r unig ateb i fi yw bod Vaughan Gething yn sefyll i lawr.”

Dywedodd Mabon ap Gwynfor o Plaid Cymru: “Mae o wedi dweud nad ydi hyn yn fater gwleidyddol sydd yn ymddangos ar y stepen ddrws. Fedra’i ddweud wrthoch chi fod o wedi ymddangos ar y stepen ddrws yma, bore ma’ wrth i mi ganfasio ac yn siarad hefo pobol - mae pobol yn codi’r mater a dydi pobol ddim yn hapus ac mae hynny’n adlewyrchu yn y polau piniwn. 

“Felly os ydi o yn mynd i barhau, mae o’n mynd i danseilio enw da’r Senedd yn fwy, felly fyswn i’n gofyn iddo fo adlewyrchu ar hyn ac ystyried o ddifri ei safle fel Prif Weinidog Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.