Rygbi’n uno i gofio Rob Burrow
Mae rygbi’r gynghrair a rygbi’r undeb wedi dod at ei gilydd i dalu teyrnged i Rob Burrow.
Bu farw’r cyn chwaraewr rygbi’r gynghrair yn 41 oed ar 2 Mehefin ar ôl byw gyda chlefyd motor niwron (MND) ers cael diagnosis yn 2019.
Fe ddechreuodd rownd derfynol y Cwpan Her rhwng Wigan Warriors a Warrington Wolves am 15:07 brynhawn ddydd Sadwrn i anrhydeddu crys rhif saith Burrow a wisgodd yn ystod gyrfa lewyrchus yn rygbi’r gynghrair gyda Leeds Rhinos.
Cafodd dwy faner enfawr o Burrow eu harddangos ar bob pen i Wembley tra bod Abide With Me yn cael ei chanu wrth i’r chwaraewyr a swyddogion y gêm gerdded allan yn gwisgo crysau gyda’i rif ar eu cefnau.
Cafwyd munud o dawelwch ar ddechrau rowndiau terfynol Cwpan Her y dynion a'r merched.
Yn Twickenham yn rownd derfynol Uwch Gynghrair rygbi'r undeb yn Lloegr, fe safodd cefnogwyr a chymeradwyo Burrow yn y seithfed munud a ddigwyddodd hefyd yn y ddwy gêm yn Wembley.
Warrington 8-18 Wigan oedd y sgôr yn Wembley a Northampoton 25-21 Caerfaddon yn Twickenham.
Llun: PA