Llywodraeth Cymru yn penodi Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt newydd yng Nghymru - swydd gyntaf o'i math yn y Deyrnas Unedig.
Fe fydd Rob Taylor, a oedd yn gyfrifol am sefydlu Tîm Troseddau Cefn Gwlad presennol Heddlu Gogledd Cymru, yn amlinellu ei flaenoriaethau ddydd Iau yn dilyn ei benodiad i'r swydd.
Crëwyd y swydd gan Lywodraeth Cymru ynghyd â heddluoedd Cymru i atgyfnerthu'r ymateb i droseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt ledled y wlad.
Fe fydd Mr Taylor yn gyfrifol am gydgysylltu bywyd gwyllt a gwaith gwledig yr heddlu ac asiantaethau partner allweddol ac i leihau troseddau a'u heffaith ar gymunedau gwledig ledled Cymru, gan gynnwys troseddau yn erbyn da byw, ymosod ar adar ysglyfaethus a tipio anghyfreithlon.
Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Rob Taylor: "Mae plismona ein cefn gwlad a diogelu ein bywyd gwyllt yn rhywbeth rwy'n frwd iawn drosto.
"Mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol o ran atal troseddau cefn gwlad, ond mae gennyn ni waith i'w wneud o hyd o ran troseddau fel ymosodiadau ar dda byw a throseddau yn erbyn bywyd gwyllt.
"Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gydag eraill ac at wneud gwahaniaeth cadarnhaol yma yng Nghymru."
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: "Hoffwn i longyfarch Rob Taylor ar ei benodiad i’r swydd bwysig hon.
"Bydd ei brofiad a'i arbenigedd yn hanfodol er mwyn gwneud newidiadau sylweddol a sicrhau ein bod yn ymateb i droseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yn ein cymunedau mewn ffordd gydgysylltiedig, effeithiol ac amlasiantaethol."
Llun: Llywodraeth Cymru