Newyddion S4C

Dileu ardaloedd 20mya yng Nghymru pe bai’r Torïaid yn ennill yr Etholiad Cyffredinol

08/06/2024
20mya / Sunak

Mae’r Blaid Geidwadol wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cyflwyno deddf y byddai'n dileu cyfyngiadau 20mya ar rai ffyrdd yng Nghymru pe bai nhw'n ennill yr Etholiad Cyffredinol.

Fel rhan o'u Mesur Gyrwyr Cefnogol arfaethedig, maen nhw wedi addo gwrthdroi rhai polisïau trafnidiaeth, gan gynnwys dileu cyfyngiadau 20mya cyffredinol fel sydd yng Nghymru, yn ogystal â gwrthdroi ehangu Parthau Allyriadau Isel Iawn (ULEZ) o Lundain fewnol i'r ardal allanol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Mark Harper y byddai’r bil yn cefnogi gyrwyr “yn wyneb gwleidyddion Llafur sy’n ysu i’w trethu oddi ar y ffyrdd”.

O dan y pennawd 'Gweithredu beiddgar i gefnogi gyrwyr,' byddai’r Ceidwadwyr yn cyflwyno mesur yn araith gyntaf y Brenin ar ôl ethol llywodraeth newydd. 

“Ni yw’r blaid ar ochr y gyrwyr,” meddai’r Prif Weinidog Rishi Sunak.

Ychwanegodd Mr Sunak: “Byddwn yn grymuso gyrwyr a thrigolion lleol i herio mesurau ymosodol a chosbau sy’n ysgogi traffig, fel cymdogaethau traffig isel a osodwyd heb ganiatâd lleol.”

Daeth terfynau cyflymder 20mya i rym ar ffyrdd penodol yng Nghymru fis Medi'r llynedd.

Mae'r polisi, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru, wedi ei feirniadu gan nifer gyda dros 450,000 yn arwyddo deiseb yn galw ar y Llywodraeth i wrthdroi'r polisi.

'Symud i'r cyfeiriad cywir'

Mae Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates, wedi dweud y bydd yn adolygu'r polisi, gan ddatgan y gallai rhai lonydd ddychwelyd i derfyn 30mya.

Mae data newydd a ryddhawyd gan y Llywodraeth ar 6 Mehefin wedi dangos bod y niferoedd o anafiadau wedi lleihau ar ffyrdd o flwyddyn i flwyddyn, ers cyflwyno'r terfynau cyflymder.

Roedd nifer yr anafiadau ar y ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng 218, o 681 yn 2022 i 463 yn 2023.

Dywedodd Mr Skates y byddai'r llywodraeth yn parhau i "wrando ar sylwadau" wrth adolygu'r polisi.

"Mae lle i wella o hyd, ac rydym yn disgwyl i’r niferoedd amrywio dros y blynyddoedd nesaf wrth i yrwyr addasu i’r cyflymder newydd, ond mae’n galonogol gweld bod pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir. 

"Mae unrhyw leihad yn nifer y bobl sy’n cael eu hanafu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

"Prif amcan y polisi o'r dechrau'n deg oedd lleihau nifer yr anafiadau a helpu pobl i deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau ac mae data heddiw yn dangos ei bod hi'n bosibl cyflawni hyn."

Wrth ymateb i gyhoeddiad y Ceidwadwyr, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Dyma stynt bathetig gan lywodraeth Dorïaidd sydd yn brysur rhedeg allan o amser. 

"Maen nhw'n dangos dirmyg llwyr tuag at Gymru ac yn barod i ymosod ar ein democratiaeth Gymreig ni er budd llond llaw o bleidleisiau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Dyma ble daer arall gan y Torïaid, sy’n meddwl dim am roi’r gorau i setliadau datganoli.

"Mae ein Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i wrando ar bobl ar 20mya drwy ailagor y broses ymgynghori. A dim ond yr wythnos diwethaf, gwelsom fod cyfraddau gwrthdrawiadau mewn parthau 20mya a 30mya wedi gostwng."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.